CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Ceiliog Dandi

Daniel Davies

Ceiliog Dandi

Pris arferol £8.00
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Daniel Davies

ISBN: 9781845277444 
Dyddiad Cyhoeddi: 27 Gorffennaf 2020
Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch, Llanrwst
Fformat: Clawr Meddal, 199x128 mm, 214 tudalen
Iaith: Cymraeg

Dafydd ap Gwilym, un o feirdd gorau ein cenedl ... ond oedd e? Golwg ddychanol ar fywyd y cymeriad lliwgar hwn o'r oesoedd canol.

Bywgraffiad Awdur:
Daw Daniel Davies o Lanarth yn wreiddiol ond mae bellach yn byw yn Penrhyn-coch, ger Aberystwyth. Ymysg ei nofelau mae Gwylliaid Glyndŵr (2007), Hei-Ho! (2009), Allez Les Gallois! (2016) ac Arwyr (2018). Enillodd ei gyfrol Tair Rheol Anrhefn Wobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam a'r Fro yn 2011, a daeth Yr Eumenides (cyhoeddwyd 2017) yn agos i’r brig yn yr un gystadleuaeth yn 2016.
Gwybodaeth Bellach:
Gan fy mod i, Dafydd ap Gwilym, yn un o feirdd gorau Cymru ‒ ac yn bwysicach, wrth gwrs, yr enwocaf – rydych chi’n siŵr o fod yn awyddus iawn i wybod mwy amdanaf.
Dyma i chi felly ran gyntaf fy hunangofiant, lle rwy’n dinoethi rhai o’m cyfrinachau mwyaf ffrwydrol:
Fy giamocs carwriaethol gyda Morfudd a Dyddgu ·
Y gwir am lofruddiaeth y clerwr, Rhys Meigen ·
Fy ymddygiad gwrol yn y frwydr enwog rhwng Lloegr a Ffrainc yn Crécy ·
Fy mherthynas dymhestlog gyda’r beirdd Iolo Goch a Madog Benfras ·
Y rhan allweddol a chwaraeais yn nhalwrn rhyngwladol cyntaf Ewrop.
Rydw i hefyd yn rhannu fy marn am farddoniaeth, athroniaeth, cariad, rhyfela a mwy ... llawer mwy.
‘Heresi lwyr.’ – Henry de Gower, Esgob Tyddewi
‘Llosgwch y llyfr… a’r awdur … Nawr.’ – Pab Clement VI
‘Llyfr eithaf boddhaol. Lluniau digon derbyniol.’ – Madog Benfras, bardd