CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Chwynnu

Sioned Wiliams

Chwynnu

Pris arferol £8.99
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Sioned Wiliam

ISBN: 9781784611804
Dyddiad Cyhoeddi: 29 Hydref 2015
Cyhoeddwr: Y Lolfa, Tal-y-bont
Fformat: Clawr Meddal, 195x130 mm, 240 tudalen
Iaith: Cymraeg

Ail nofel lawn ffraethineb yr awdures Sioned Wiliam, enw cyfarwydd ym myd comedi y mae ei nofel gyntaf, Dal i Fynd, yn cael ei datblygu yn gyfres deledu. Mae'r nofel ddiweddaraf yn llawn hiwmor wrth bortreadu cymeriadau difyr mewn sefyllfaoedd doniol a dwys.

Bywgraffiad Awdur:
Mae Sioned yn byw yn Llundain, ond mae'n enw adnabyddus iawn ym myd comedi teledu ynysoedd Prydain. Mae Dal i Fynd wedi ei opsiynu gan gwmni teledu Working Title. Cynhyrchodd amryw o raglenni comedi i'r prif rwydweithiau. Fe'i henwebwyd am wobr BAFTA Lloegr dair gwaith fel cynhyrchydd ac enillodd y British Comedy Award a'r Rhosyn Efydd ym Montreux am Big Train ym 1999.
Rhwng 1999 a 2006 roedd yn Bennaeth Comedi Rhwydwaith ITV, gan gomisiynu nifer fawr o ffilmiau a chyfresi comedi gan gynnwys Harry Hill's Sketch Show a Cold Feet.
Gwybodaeth Bellach:
Mae'r stori ddifyr a doniol hon yn dilyn blwyddyn ym mywydau criw o gymeriadau sy'n byw yn ardal Caerdydd, ac yn codi'r caead ar fyw yn fras ac yn edrych y tu hwnt at fywyd symlach yn agosach at bobol ac at y tir.
Mae Dylan yn gynhyrchydd teledu llwyddiannus nes iddo brofi cwymp mawr sy'n golygu bod rhaid ailedrych ar fywyd o'r newydd. Mae Meriel ei wraig yn rhy hoff o'r fotel nes iddi sylweddoli bod mwy i fywyd na bwyd y deli a Prosecco oer.
Mae gan yr awdur ddawn i ddweud stori ddoniol. Yng ngeiriau Bethan Gwanas am Dal i Fynd: 'Tonic o nofel! Wedi chwerthin yn uchel ond yn agos at ddagrau weithiau hefyd.'