CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Dal i Fynd

Sioned Wiliam

Dal i Fynd

Pris arferol £8.95
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Sioned Wiliam

ISBN: 9781847717177
Dyddiad Cyhoeddi: 24 Medi 2013
Cyhoeddwr: Y Lolfa, Tal-y-bont
Fformat: Clawr Meddal, 194x128 mm, 271 tudalen
Iaith: Cymraeg

 Llyfr y Mis: Hydref 2013
Nofel ddifyr a doniol iawn sy'n dilyn tair menyw yn ystod blwyddyn yn eu bywydau llawn antur a hiwmor. Yng ngeiriau Bethan Gwanas: 'Tonic o nofel! Wedi chwerthin yn uchel ond yn agos at ddagrau weithiau hefyd.'
Bywgraffiad Awdur:
Dyma nofel gyntaf Sioned sy’n byw yn Llundain, ond mae’n enw adnabyddus iawn ym myd comedi teledu ynysoedd Prydain. Fe'i ganwyd yng Nghaerfyrddin a'i magu yn y Barri. Mae Dal i Fynd wedi ei opsiynu gan gwmni teledu Working Title. Cynhyrchodd amryw o raglenni comedi i’r prif rwydweithiau. Rhwng 1999 a 2006 roedd hi’n Bennaeth Comedi Rhwydwaith ITV, gan gomisiynu nifer fawr o ffilmiau a chyfresi comedi gan gynnwys Harry Hill’s Sketch Show a Cold Feet. Mae ganddi nifer o brosiectau ar y gweill gyda chwmni Working Title ac mae’n datblygu cyfres i Sky gyda chriw Horrible Histories.
Gwybodaeth Bellach:
Dyw Anwen ddim yn siŵr pa un sydd waethaf… magu tri o blant, bod yn gadeirydd PTA yr ysgol, neu wrando ar Rhys, ei gŵr, yn conan am ei daith lan i’r gogs i’r gwaith.

Ar yr wyneb mae Delyth yn fenyw fusnes lwyddiannus. Ond o dan yr wyneb mae’n byw am y llyfr self-help diweddara ac yn hollol paranoid am sicrhau dyrchafiad cyn iddi fynd yn rhy hen.

Fel gwraig weinidog gydwybodol mae Nia’n gwneud ei gorau i gefnogi ei gŵr. Felly, sut all menyw ffeind ymdrin ag Eirwen, y ciwrad newydd sy’n ddigon i wneud i unrhyw un golli ei ffydd?

Mae trobwynt ar ei ffordd i’r dair, ac erbyn i gylch blwyddyn fynd heibio bydd golwg go wahanol ar eu bywydau – er gwell ac er gwaeth.
Mae gan yr awdur ddawn i ddweud stori ddoniol.
Gwobrau:
Fe'i henwebwyd am wobr BAFTA Lloegr dair gwaith fel cynhyrchydd ac enillodd y British Comedy Award a'r Rhosyn Efydd ym Montreux am Big Train ym 1999.