CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Dan Fygythiad

Gwasg Carreg Gwalch

Dan Fygythiad

Pris arferol £8.50
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: John Alwyn Griffiths

ISBN: 9781845277819 
Dyddiad Cyhoeddi: 13 Tachwedd 2020
Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch
Fformat: Clawr Meddal, 182x124 mm, 336 tudalen
Iaith: Cymraeg

Ymunwn am y nawfed tro â’r Ditectif Jeff Evans, sy’n ceisio cadw trefn ar dref Glan Morfa a’r cyffiniau.

Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:
Bywgraffiad Awdur:
Un o Fangor yw John Alwyn Griffiths yn wreiddiol, ond mae bellach yn byw ym Môn. Bu’n heddwas hyd ddiwedd 1998, a chyn ymddeol roedd yn bennaeth ar Adran Dwyll Heddlu Gogledd Cymru.

Gwybodaeth Bellach:
Yn y nofel hon mae Jeff yn cael ei alw i ddelio â marwolaeth amheus ar dir parc carafannau lleol, lle mae anghydfod wedi bod rhwng tad a mab. Wrth ymchwilio’n ddyfnach mae’n darganfod bod cwmni anhysbys wedi bod yn ceisio brawychu’r perchennog i dalu arian iddyn nhw er mwyn gwarchod y safle rhag niwed ‒ profiad y mae nifer o berchnogion parciau gwyliau ar hyd yr arfordir wedi gorfod ei wynebu.
All Jeff ddarganfod be sy’n mynd ymlaen, ac yn bwysicach, pwy sy’n gyfrifol?