Awdur: Ioan Kidd
ISBN: 9781848515482
Dyddiad Cyhoeddi: 04 Tachwedd 2013
Cyhoeddwr: Gomer, Llandysul
Fformat: Clawr Meddal, 196x127 mm, 250 tudalen
Iaith: Cymraeg
Y tro cyntaf y caiff bywyd Mari ei ddryllio, does dim dewis ganddi ond dal ei gafael a brwydro ymlaen. Chwarter canrif yn ddiweddarach, a all hi wneud hynny eto? Stori am fywyd teulu cyfoes gyda phawb yn gorfod gwneud dewisiadau anodd.
Bywgraffiad Awdur:
Brodor o Gwmafan yng Ngorllewin Morgannwg yw Ioan Kidd ond mae e’n
byw yng Nghaerdydd ers blynyddoedd lawer. Hon yw ei bumed nofel a’r
drydedd i oedolion ac mae’n awdur cyfrol o storïau byrion hefyd.
Gwybodaeth Bellach:
Y tro cyntaf y caiff bywyd Mari ei ddryllio, does dim dewis ganddi ond dal ei gafael a brwydro ymlaen. Chwarter canrif yn ddiweddarach, a all hi wneud hynny eto?
Dyma hanes teulu cyfoes a’r tensiynau sy’n codi pan fydd grymoedd y tu hwnt i’w rheolaeth ar waith. Er gwell, er gwaeth, mae dewisiadau
unigol Mari, ei merched, ei gŵr a’i chyn-ŵr yn cyffwrdd, i’r byw, â phob un ohonyn nhw.
Mae nofel egnïol a heriol Ioan Kidd yn frith o bynciau llosg y gymdeithas gyfoes. Ond yn fwy na hynny, mae’r awdur yn ein hannog i ailystyried y perthnasau llai amlwg sy’n rhan o wead cymhleth teuluoedd modern.
Ochr yn ochr â’r dwyster, mae cariad a hiwmor yn goleuo cynfas amryliw’r nofel ddyrchafol hon, a thrwy’r cyfan mae’n rhaid i bawb wynebu dewisiadau mawr.
Gwobrau:
Llyfr y Flwyddyn 2014 / Welsh-language Wales Book of the Year 2014