CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Drychwll

Siân Llywelyn

Drychwll

Pris arferol £8.00
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Siân Llywelyn

ISBN: 9781845277437 
Dyddiad Cyhoeddi: 17 Mehefin 2020
Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch
Fformat: Clawr Meddal, 198x128 mm, 192 tudalen
Iaith: Cymraeg

Pan gaiff Mabli Fychan, newyddiadurwraig ifanc, dlos a hyderus, ei gyrru ar drywydd stori gan olygydd y Chronicle, does ganddi ddim syniad y caiff ei bywyd ei droi ben i waered.

Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:
Tabl Cynnwys:
Wrth iddi ymchwilio i ddiflaniad hanesydd lleol caiff ei thynnu i sefyllfa afreal arallfydol ... a dim ond un person all ei rhyddhau o’i hunllef.

Bywgraffiad Awdur:
Magwyd Siân Llywelyn ym Mhenrhyndeudraeth a chafodd ei haddysg yn Ysgol Fabanod Morfa Nefyn, ysgol gynradd Nefyn, Ysgol Uwchradd Ardudwy a Choleg Meirion Dwyfor.
Astudiodd am radd ar y cyd mewn Cymraeg a Cherddoriaeth, ac aeth ymlaen i ddilyn M.A mewn sgwennu creadigol.
Ei swydd broffesiynol gyntaf oedd athrawes Cymraeg a Saesneg yn Ysgol Ardudwy, cyn iddi symud i Lanfyllin yn 2010 yn arweinydd adran ail iaith yr ysgol honno. Rhoddodd y gorau i ddysgu ddiwedd y llynedd, ac mae’n gobeithio dilyn cwrs doethuriaeth ym Mhrifysgol Bangor eleni, a dychwelyd i Dre’r Cocos a’i milltir sgwâr.
Sgwennu yw ei phrif ddiddordeb, ac mae wedi dod yn fuddugol mewn cystadlaethau amrywiol yn Eisteddfodau Powys a Môn. Mae hefyd yn hoffi cerdded, meddwi ar hanes Cymru, teithio, coginio, darllen, garddio a photshan efo meddyginiaethau naturiol. Pan fydd yn cael amser i wylio’r teledu ei hoff ffuglenni ydi ffantasi, arswyd , ditectif a chomedi, ond yn ôl Siân, weithiau does dim i guro rhaglen ddogfen dda.