Awdur: Heiddwen Tomos
ISBN: 9781784616656
Dyddiad Cyhoeddi: Mai 2019
Cyhoeddwr: Y Lolfa, Tal-y-bont
Fformat: Clawr Meddal, 194x132 mm, 208 tudalen
Iaith: Cymraeg
Nofel gignoeth gan Heiddwen Tomos sy'n sôn am berthynas tad-cu â'i ddau ŵyr. Mae'r cymeriadau, a'u perthynas â'i gilydd, yn annwyl, yn gredadwy ac yn gofiadwy. Mae themâu cyfoes a thraddodiadol yma, megis perthyn a threftadaeth, mewnfudwyr a chariad, ac mae'r ddeialog a'r naratif yn llifo a hiwmor yn frith drwyddi.
Bywgraffiad Awdur:
Mae Heiddwen yn athrawes Ddrama yn Ysgol Bro Teifi, Llandysul. Enillodd y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn 2017 a daeth y nofel hon yn agos iawn at ennill Gwobr Goffa Daniel Owen 2018.
Gwybodaeth Bellach:
Yn ôl beirniaid Gwobr Goffa Daniel Owen 2018:
Meinir Pierce Jones – "Mae'r portread o Tad-cu yn gampwaith, yn ei ymarweddiad a'i sgwrs, ei ddoethieb a'i ffolineb."
Gareth Miles – "Mae'n feistr ar Gymraeg safonol a thafodieithol."
Bet Jones – "Ceir cydbwysedd meistrolgar rhwng y dwys, y doniol a'r ffiaidd... Roeddwn wedi fy swyno'n llwyr. Does gen i ddim amheuaeth na fydd hi'n hynod o boblogaidd ac yn dod â phleser i lawer iawn o ddarllenwyr."