CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Fflur

Lloyd Jones

Fflur

Pris arferol £8.99
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Lloyd Jones

ISBN: 9781784617745
Dyddiad Cyhoeddi: 18 Medi 2019
Cyhoeddwr: Y Lolfa, Tal-y-bont
Fformat: Clawr Meddal, 195x131 mm, 192 tudalen
Iaith: Cymraeg

Dyma raghanes i Y Dŵr. Nofel wedi ei lleoli yn y Gymru wledig am gariad a rhamant gydag elfennau goruwchnaturiol wedi plethu i'r cwbl. Dilynir Eirlys, morwyn sy'n gweithio ar fferm Dolfrwynog, sy'n gwylio ac yn cofnodi pob hanesyn a mynd a dod yn ei chymuned yng Nghwm y Blodau rhwng y ddau ryfel byd.

Bywgraffiad Awdur:
Ganed Lloyd Jones ar fferm yn Hiraethog. Bu'n gweithio fel newyddiadurwr. Yn 2001, llwyddodd i gerdded o amgylch Cymru gyfan - y person cyntaf i wneud hynny. Mae wedi hen ennill ei blwyf yn ysgrifennu yn y Gymraeg a'r Saesneg. Ef oedd enillydd Llyfr y Flwyddyn yn 2007 gyda'r nofel Mr Cassini. Enillodd ei nofel gyntaf, Mr Vogel (2005) wobr McKitterick ac fe gyrhaeddodd rhestr fer gwobr Bollinger Everyman Wodehouse. Mae'n byw yn Abergwyngregyn.
Gwybodaeth Bellach:
Ychydig feddyliodd Eirlys a theulu Dolfrwynog, y byddai ymweliad annisgwyl a rhyfedd y ferch yn y wisg werdd yn newid eu bywydau am byth. Pwy yn union yw hi? A oes gobaith iddynt ail-gydio yn eu
bywydau eto? Fel y disgwylid gan yr awdur hwn, mae'r nofel yn gyforiog o ddisgrifiadau telynegol gwreiddiol, tyner a thrist.