CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Ffydd, Gobaith, Cariad

Llwyd Owen

Ffydd, Gobaith, Cariad

Pris arferol £7.95
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Llwyd Owen

ISBN: 9780862439392 
Dyddiad Cyhoeddi: 22 Tachwedd 2006
Cyhoeddwr: Y Lolfa
Fformat: Clawr Meddal, 183x120 mm, 341 tudalen
Iaith: Cymraeg

♥ Llyfr y Mis: Rhagfyr 2006
Nofel rymus, ddirfawr sy'n llawn datblygiadau annisgwyl. Mae'r stori yn troi o gwmpas Alun Brady, dyn sydd wedi byw bywyd tawel a chysgodol yng nghartref crand ei rieni yng Nghaerdydd. Ond pan ddaw ei dad-cu drygionus i fyw ac i farw gyda'r teulu, dyma ddechrau ar newidiadau enfawr a dyfodiad cymeriadau lliwgar i fywyd Alun. Nofel am yr hyn sy'n tarfu ar dawelwch undonog bywyd.

Bywgraffiad Awdur:
Brodor o Gaerdydd sydd wedi gweithio mewn amryw o swyddi yn y cyfryngau ers 1998. Ffawd, Cywilydd a Chelwyddau yw ei nofel gyntaf. Ar hyn o bryd mae Llwyd wrthi’n gorffen ei ail nofel (fydd allan yn hwyrach eleni... gobeithio) ac hefyd wedi dechrau ar y broses o addasu Ffawd… yn ffilm. Mae'n byw yn ardal Parc Buddug y ddinas gyda'i wraig Lisa a'u 'plant' Moses a Marley.

Gwybodaeth Bellach:
Gorffennol. Presennol. Dyfodol. Mae popeth yn gysylltiedig. Mae Alun Brady, dyn ar drothwy ei 30 oed, wedi byw bywyd tawel, di-nod a chysgodol yng nghartref crand ei rieni yn un o faestrefi mwyaf cefnog Caerdydd. Ond, pan ddaw Patrick, ei dad-cu drygionus, i fyw ac i farw yng nghartref Alun a'i rieni dyma ddechrau newidiadau enfawr ym mywyd y dyn ifanc.

Yn llawn cymeriadau lliwgar, plotio gwreiddiol a diweddglo cofiadwy, mae "Ffydd Gobaith Cariad" yn esblygiad naturiol o nofel gyntaf yr awdur, "Ffawd, Cywilydd a Chelwyddau".

Wedi ei ysgrifennu yn gyfan gwbl trwy lygaid Alun, mae'r nofel yn rymus gyda datblygiadau annisgwyl ac anhygoel. Gan archwilio themau cyfoes, mae "Ffydd Gobaith Cariad" yn nofel am undonedd bywyd a'r pethau bach (a mawr) sy'n tarfu ar y tawelwch.

Nofel llawn cymeriadau lliwgar, plotio gwreiddiol a diweddglo tanllyd - ail nofel wefrediddiol sy'n esblygiad naturiol o'i nofel gyntaf.

Gwobrau:
Llyfr y Flwyddyn 2007 / Wales Book of the Year 2007