CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Gwales

Catrin Dafydd

Gwales

Pris arferol £9.99
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Catrin Dafydd

ISBN: 9781784614096
Dyddiad Cyhoeddi: 11 Gorffennaf 2018
Cyhoeddwr: Y Lolfa, Tal-y-bont
Fformat: Clawr Meddal, 214x140 mm, 298 tudalen
Iaith: Cymraeg

 Llyfr y Mis: Medi 2017
Mae Brynach Yang am orffen popeth. Ac mae'n mynd i'w wneud e. Heno. Ond beth fydd yn digwydd i Gymru wedyn? Mae ymgyrch Gwales ar fin dechrau ar siwrne gythryblus... a Brynach sy'n arwain y chwyldro... Dyma nofel gyffrous a deallus, wedi ei lleoli yng Nghymru y dyfodol agos, gan awdures brofiadol â llais unigryw. Adargraffiad. Cyhoeddwyd yn gyntaf yn 2017.
Bywgraffiad Awdur:
Mae Catrin Dafydd yn enw cyfarwydd: yn awdur, bardd a pherfformwraig ac mae’n weithredol yn wleidyddol.

Cyhoeddodd ddwy nofel yn Saesneg hefyd. Cyrhaeddodd ei nofel Saesneg gyntaf, Random Deaths and Custard, restr fer gwobr Spread the Word: Books to Talk About yn 2009 gan dîm World Book Day. Derbyniodd ei hail nofel Saesneg, Random Births and Lovehearts, ganmoliaeth fawr.

Cyrhaeddodd ei nofel gyntaf i oedolion, Pili Pala, restr hir Llyfr y Flwyddyn yn 2006 ac mae’n llais ac yn wyneb cyfarwydd ar radio a theledu.
Gwybodaeth Bellach:
All Brychan Yang ddim gwared y llais ’na rhagor. Yr un sy’n pregethu. Yn dweud wrtho fod pob dim ar ben. Mae e am orffen popeth. Neidio o Bont Pont Lesneven yng Nghaerfyrddin. Ac mae’n mynd i’w wneud e. Heno.
Fydd Morfudd ddim yn ei stopio fe. Mae ei gyn-wraig yn dal yn ddig ag ef achos beth ddigwyddodd yn ystod yr ymgyrch Gwales cyntaf – ymgyrch i roi Cymru yn ôl yn nwylo’r bobol.
Ond beth am Edith? Hi yw’r rheswm mae Morfudd yn grac gyda Brynach yn y lle cyntaf. A hi sy’n tywys pobol Cymru ar ail siwrne gythryblus. Mae’n benderfynol y bydd ymgyrch Gwales yn llwyddo y tro hwn, ac mai Brynach fydd yn arwain y chwyldro…
Dyma nofel gyffrous a deallus, wedi ei lleoli yng Nghymru y
dyfodol agos, gan awdures brofiadol â llais unigryw.