Awdur: Daniel Davies
ISBN: 9781847711403
Dyddiad Cyhoeddi: 05 Mehefin 2009
Cyhoeddwr: Y Lolfa, Tal-y-bont
Fformat: Clawr Meddal, 195x130 mm, 208 tudalen
Iaith: Cymraeg
Nofel yn llawn hiwmor gan awdur Gwylliaid Glyndŵr a'r gyfrol o straeon byrion, Twist ar Ugain. Mae'r nofel yn llawn cymeriadau brith, ac Aberystwyth yn gefndir i'r digwyddiadau. Hanes saith o bobl a wnaed yn ddi-waith yn sgil yr hyn a elwid yn 'wasgfa ariannol'.
Bywgraffiad Awdur:
Ganwyd Daniel Davies yn Llanarth ac mae dal i fyw yng Ngheredigion. Bu’n un o olygyddon y cylchgrawn Seren Tan Gwmwl ers ei ddyddiau coleg. Hei-Ho! yw ei drydedd nofel yn dilyn Pele, Gerson a’r Angel a Gwylliaid Glyndŵr.
Gwybodaeth Bellach:
Darlun o fywyd pobl ddi-waith yn Aberystwyth a geir yn y gyfrol hon. Mae’n frwydr rhwng y prif gymeriad, Bryn, sydd am gadw ei etifeddiaeth deuluol a’i gymdogion.
Ffermwyr aflwyddiannus sydd am brynu ei gae er mwyn ei ddatblygu i wneud arian. Mae Bryn yn cwrdd â’r holl gymeriadau eraill yn y sesiynau yn y Ganolfan Waith yn y dre ...
Nofel llawn hiwmor sy’n darlunio bywyd cymeriadau brith ar ymylon cymdeithas ac sy’n dod i uchafbwynt wrth iddynt fynd ar daith anhygoel mewn bws wedi ei ddwyn ...