CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Lliwiau'r Eira

Alun Jones

Lliwiau'r Eira

Pris arferol £8.99
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Alun Jones

ISBN: 9781848515512
Dyddiad Cyhoeddi: 16 Tachwedd 2012
Cyhoeddwr: Gomer, Llandysul
Fformat: Clawr Meddal, 196x128 mm, 388 tudalen
Iaith: Cymraeg

Yn nofel newydd Alun Jones, awdur un o nofelau mwyaf poblogaidd y Gymraeg, Ac Yna Clywodd Sŵn y Môr, gwelwn yr awdur yn troi ei sylw at gymeriadau sy'n ceisio cadw'u callineb yng nghanol rhyfel parhaus rhwng dwy fyddin. Mae'r nofel afaelgar a bywiog hon yn dilyn hynt a helynt pedwar milwr ifanc, Eyolf, Tarje, Linus a Jalo wrth iddynt ddisgyn i ddwylo'r gelyn.

Bywgraffiad Awdur:
Dyma nawfed nofel Alun Jones. Wedi ymddeol o fod yn llyfrwerthwr ym Mhwllheli, mae’n byw yn Sarn yn Llŷn. Mae’n briod ag Ann ac mae ganddynt bump o hogiau.
Gwybodaeth Bellach:
Ar y môr y mae’r milwyr ifanc Eyolf, Tarje, Linus a Jalo ar ddechrau’r nofel annisgwyl hon.

Wedi i’r llong gael ei dryllio, does dim dewis ond mynd ar daith trwy diroedd oer y blaidd a’r eryr, lle mae pobl yn bobl fel erioed: yn ffeind, yn ffraeth, ac yn ffiaidd.

Awn y tu hwnt i amser a dilyn y cymeriadau a’u hymdrechion i ddal gafael ar eu hunaniaeth, pa rwystrau bynnag ddaw i’w rhan a beth bynnag mae’r byddinoedd a’r Chwedl yn ei fygwth neu’n ei orchymyn.