CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Myfi, Iolo

Y Lolfa

Myfi, Iolo

Pris arferol £9.99
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Gareth Thomas

ISBN: 9781784614843 
Dyddiad Cyhoeddi: 15 Tachwedd 2017
Cyhoeddwr: Y Lolfa, Tal-y-bont
Fformat: Clawr Meddal, 194x129 mm, 400 tudalen
Iaith: Cymraeg

Nofel hanesyddol fyrlymus yn dilyn ôl-troed un o gymeriadau mwyaf diddorol hanes Cymru, Iolo Morgannwg (Edward Willimas, 1747-1826). Nofel llawn antur, dirgelwch, cariad, gwrthryfel, trais, cyffuriau, angerdd, ysbïwyr a brad.

Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:
Bywgraffiad Awdur:
Ganed Gareth Thomas i rieni o Gwm Rhondda. Cafodd ei addysg yn y Rhyl, Pontllyfni, Cwmbrân, Caerdydd a Llundain. Astudiodd ddrama yn y Barri a Llundain. Gweithiodd yn Lloegr fel actor, athro, awdur a chyfarwyddwr. Perodd ei rwystredigaeth dros golli ei gysylltiadau â Chymru iddo ddechrau dysgu’r Gymraeg yn 50 oed ar gwrs gohebol Prifysgol Morgannwg. Mae’n byw yn y Bontfaen.

Gwybodaeth Bellach:
Dyma nofel fyrlymus yn dilyn ôl-troed bywyd Iolo Morganwg.
Roedd Iolo’n athrylith, gydag egni di-ben-draw, yn llawn dicter dros anghyfiawnder ac yn ymrwymedig i’r achos rhyddid oedd yn trawsnewid Ewrop. Roedd gan Iolo gymaint o agweddau: saer maen, ysgolhaig, bardd, emynydd, gwleidydd, gwladgarwr, chwyldroadwr, derwydd, dyn busnes aflwyddiannus, ymgyrchydd dros hawliau dynol, caethwas i gyffuriau, arloeswr a chyflawnwr y ffugiad llenyddol mwyaf yn hanes Ewrop. Ond pam ffugio? A pha arwyddocâd cyfrinachol oedd tu ôl y seremonïau Gorseddol?