CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Mynd Fel Bom

Myfanwy Alexander

Mynd Fel Bom

Pris arferol £9.00
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Myfanwy Alexander

ISBN: 9781845276942
Dyddiad Cyhoeddi: 17 Rhagfyr 2019
Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch, Llanrwst
Fformat: Clawr Meddal, 198x128 mm, 398 tudalen
Iaith: Cymraeg

 Llyfr y Mis: Ionawr 2020
Mae'r Ditectif Daf Dafis yn cael ei alw i achos o ffrwydrad mewn gorsaf drenau leol... a'r dybiaeth amlycaf yw bod ISIS wedi cyrraedd Maldwyn fwyn. Rhwng gorfod mynychu cyrsiau i ddysgu sut i ddelio a therfysgwyr, a darganfod corff, dyw Daf druan ddim yn mynd i gael llaesu dwylo!
Bywgraffiad Awdur:
Magwyd Myfanwy Alexander yng Nghefn Coch yn Sir Drefaldwyn, ac ar ôl byw ym mhob cornel o Brydain dychwelodd i fagu chwech o ferched mewn tŷ to gwellt ger Llanfair Caereinion. Fel sgwennwr a darlledwr mae wedi cyfrannu i sawl rhaglen radio a theledu, gan gynnwys nifer o raglenni comedi a dychan. Enillodd wobr Sony am y gyfres gomedi 'The LL Files' i Radio Wales yn 1999. Hi yw hanner tîm Cymru ar y 'Round Britain Quiz' ar Radio 4. Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf, A Oes Heddwas? yn 2015, Pwnc Llosg yn 2016 a Y Plygain Olaf yn 2017. Cafodd A Oes Heddwas? ei chyfieithu i’r Saesneg yn haf 2017 dan y teitl Bloody Eisteddfod.
Gwybodaeth Bellach:
Y bedwaredd nofel gan yr awdures o Faldwyn sy'n dilyn hynt a helynt y ditectif hoffus, Daf Dafis.