CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Naw Mis

Caryl Lewis

Naw Mis

Pris arferol £8.95
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Caryl Lewis

ISBN: 9781847710840
Dyddiad Cyhoeddi: 02 Rhagfyr 2009
Cyhoeddwr: Y Lolfa, Tal-y-bont
Fformat: Clawr Meddal, 194x130 mm, 432 tudalen
Iaith: Cymraeg

Mae'n cymryd naw mis i greu bywyd newydd ond cymer naw mis hefyd i berson farw ... Nofel am ddiflaniad merch yw Naw Mis, ac effaith hynny ar ei theulu a'i chymuned. Dyma nawfed nofel yr awdures a enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn gyda'i chyfrol Martha, Jac a Sianco.

Gwybodaeth Bellach:
"Mae hi'n cymryd tua naw mis i ddechrau dygymod a galar. Yr un faint yn union o amser ag ma hi'n 'i gymryd i ffurfio person." "Falle bod 'na naw mis bob ochr i fywyd," meddai Mags. Meddyliodd y ferch am eiliad. "Falle..."

Nofel am ddiflaniad merch yw Naw Mis, ac effaith hynny ar ei theulu a'i chymuned.

Dihuna Cara yn yr Arhosfyd, byd sy'n ein hatgoffa o'r ddaear ond eto sy'n hollol wahanol. Bydd yn rhaid iddi dreulio naw mis yno, yn dysgu, yn aeddfedu ac yn dod i ddathlu a gwerthfawrogi'i bywyd. Caiff Cara ei harwain gan Abel yn y byd newydd i chwilio am "Lyfr yr Arwyddion" a fydd yn ei galluogi i gysylltu 'nôl â'r ddaear. Mae ei phenderfyniadau yn peryglu'r holl Arhosfyd a'r ffin rhwng y byd hwn a'r nesa' ...

*************************************

Naw Mis Caryl Lewis

Lansiwyd nofel ddiweddaraf Caryl Lewis, Naw Mis, union naw mis wedi iddi fynd yn feichiog am y tro cyntaf. Ond yn ôl yr awdur, sydd wedi datblygu i fod yn un o awduron mwya poblogaidd, toreithiog ac uchaf ei pharch yng Nghymru, cyd-ddigwyddiad llwyr oedd y teitl. Yn ôl Caryl nid cyfeirio at y naw mis mae merch yn feichiog wna’r teitl ond y naw mis a gymer i rywun oresgyn galar, ac awgryma mai darganfod y wybodaeth yma wrth ffrind oedd wedi mynd at gwnsler wnaeth ysbrydoli’r nofel.

Hanes Cara, merch ifanc, yn diflannu o’r ddaear ac yn deffro yn yr Arhosfyd, rhyw fan y tu hwnt i’r bedd, am naw mis a geir yn y nofel. Er bod cwestiynau mawr am fywyd a marwolaeth, rhagrith a chrefydd yn themâu amlwg iawn yn y nofel mae Caryl yn dadlau nad yw hi’n nofel dywyll, “Mae hi’n nofel am ddod i delerau â phethau… mae’r diwedd yn fwy positif na sawl un o fy nofelau eraill.”

Mae Naw Mis yn nofel swmpus pedwar can tudalen sy’n wahanol iawn o ran arddull a chynnwys i’w cyfrolau eraill, er enghraifft ceir elfen ffantasiol ynddi, ond mae Caryl yn awyddus i bwysleisio ei bod hi’n nofel sy’n darllen yn rhwydd, “Mae’n fwy o ‘page-turner’ ac yn llacach o ran steil na rhai o’m llyfrau mwy llenyddol fel Y Gemydd a Plu.”