Jon Gower
Norte
Pris arferol
Pris gostyngol
£9.99
Pris Uned
/ per
Treth yn gynwysedig.
Cyfrif cludiant yn y man talu.
Awdur: Jon Gower
ISBN: 9781848517745
Dyddiad Cyhoeddi: 28 Hydref 2015
Cyhoeddwr: Gomer, Llandysul
Fformat: Clawr Meddal, 196x128 mm, 334 tudalen
Iaith: Cymraeg
Epig o nofel wedi'i gosod yn Ne America gan gyn-enillydd gwobr Llyfr y Flwyddyn. Ynddi, mae dau gymeriad gwahanol iawn i'w gilydd yn cyfarfod, ond ŵyr neb beth fydd effaith y cyfarfyddiad ar eu ffawd ill dau. Llanc ifanc yn ceisio cyrraedd yr Unol Daleithiau er mwyn dianc rhag tlodi affwysol ei famwlad yn America Ganol yw un, a bachgen cyffredin o dre fechan yn Arisona yw'r llall.
Bywgraffiad Awdur:
Mae Jon Gower yn awdur amryddawn nofelau, straeon byrion a llyfrau ffeithiol yn Gymraeg a Saesneg. Enillodd ei nofel Y Storïwr wobr Llyfr y Flwyddyn yn 2012 ac roedd Jon yn un o Gymrodyr Rhyngwladol cyntaf Gŵyl y Gelli. Mae e'n byw yng Nghaerdydd gyda llond tŷ o fenywod prydferth, sef ei wraig Sarah a'i ferched Elena ac Onwy.
Gwybodaeth Bellach:
Mae Juan Pablo'n ceisio cyrraedd yr Unol Daleithiau er mwyn dianc rhag tlodi affwysol Hondiragua, ei famwlad yn Ne America. Crwt cyffredin o dre fach yn Arisona yw Trace, sydd wrth ei fodd yn anturio gyda'i frawd, Alex. Mae gan y ddau wahanol yma un peth yn gyffredin – mae eu teithiau drwy fywyd yn syfrdanol o galed yn eu ffyrdd eu hunain. Does dim rheswm yn y byd pam y dylai eu llwybrau groesi, ond yn hwyr neu'n hwyrach, fe fyddan nhw. A beth fydd effaith y cyfarfod hwn ar eu ffawd yn y pen draw?
Mae'r nofel gynhyrfus hon yn ein tywys o ddiffeithwch y ffin rhwng Mecsico ac America a'r trenau sy'n cludo ffoaduriaid fesul mil, tuag at Irac yng nghyfnod gwarchae Fallujah, ymlaen drwy goedwigoedd ysblennydd taleithiau de-orllewin America hyd at eithafion rhynllyd Alasga.
Yng nghwmni Juan Pablo a Trace, dim ond i un cyfeiriad yn unig rydyn ni'n mynd – tua'r gogledd, wastad. Al norte...

Gwobrau:
Mae Norte ar rhestr fer Llyfr y Flwyddyn 2016.
Norte is shortlisted for the Book of the Year Award 2016.
Norte is shortlisted for the Book of the Year Award 2016.