CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

O! Tyn y Gorchudd - Hunangofiant Rebecca Jones (Cyfrol y Fedal Ryddiaith 2002)

Gomer

O! Tyn y Gorchudd - Hunangofiant Rebecca Jones (Cyfrol y Fedal Ryddiaith 2002)

Pris arferol £8.99
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Angharad Price

ISBN: 9781843231684
Dyddiad Cyhoeddi: 22 Hydref 2019
Cyhoeddwr: Gomer, Llandysul
Fformat: Clawr Meddal, 173x119 mm, 152 tudalen
Iaith: Cymraeg

Cyfrol arobryn Medal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol Tyddewi 2002, sef hunangofiant dychmygol hen fodryb yr awdures a fu farw yn ei phlentyndod, yn cynnwys portread byw a chynnes o gymdeithas wledig Gymraeg yn Sir Feirionnydd yn ystod yr 20fed ganrif. 10 ffotograff du-a-gwyn. Adargraffiad; cyhoeddwyd gyntaf ym mis Awst 2002.

Gwybodaeth Bellach:
O! Tyn y Gorchudd
Hanes Rebecca Jones yw O! Tyn y Gorchudd. Fe'i ganed yn 1905 a threulio ei bywyd ym Maesglasau, cwm anghysbell yn Sir Drefaldwyn fu yn gynefin i'w theidiau am fil o flynyddoedd. Yma y buont hwy yn hau ac yn medi, ac yn profi caledi a dedwyddwch bywyd bob yn ail. Creulon iawn fu tynged rhieni Rebecca. Cawsont saith o blant ond yr oedd tri ohonynt yn gwbl ddall, a bu dau ohonynt farw yn ifanc. Mae O! tyn y gorchudd yn adlewyrchu hanes yr ugeinfed ganrif. Y mae yn canu clod pobl ddiymhongar, wledig a oedd yn gadarn eu ffydd ac yn llawn daioni er gwaethaf y trallod a'r dioddefaint a ddaeth i'w rhan. Y mae'r hen gymuned wledig Gymreig yn gynsail i'r llyfr. Mae man a lle yn hanfodol i Rebecca, ac i'w theulu, ac y maent yn ymwybodol o'r traddodiadau sydd yn perthyn i'w cynefin. Stori am gariad a haelioni dau riant yw'r llyfr, ac yn anad dim am ddyfalbarhad a gweledigaeth mam Rebecca. Mae O! Tyn y Gorchudd yn perthyn i draddodiad llenyddol sydd yn datgelu ac yn darlunio bywyd y Cymry cyffredin. Y mae'r awdures Angharad Price, fel eraill o'i blaen - Daniel Owen, T. Rowland Hughes, Kate Roberts ac Elena Puw Morgan - yn ysgrifennu am ei chyd-Gymry gydag arddeliad a chyda dealltwriaeth llwyr o'u hofnau ac eu gobeithion. Eto i gyd, nid hunangofiant clasurol mo'r gwaith. Cawn wybod tua diwedd y llyfr y bu farw Rebecca Jones yn ifanc yn 1916 ac mai teyrnged iddi yw'r llyfr sydd yn dychmygu y bywyd y gallasai ei gael. Yn O! Tyn y Gorchudd, gwelwn dynnu'r llwch o genre yr hunangofiant a rhoi sglein arno o'r newydd gan awdures sydd â'r ddawn ac â'r hyder i wneud hynny. Teg dweud i ddarllenwyr y Gymraeg gael eu synnu gan lyfr mor Gymreigaidd mewn oes sydd yn bygwth difa'r hyn fu yn sail i Gymreictod gynt.
Cyfnewidfa Lên Cymru/Wales Literature Exchange