Wiliam Owen Roberts
Paris
Awdur: Wiliam Owen Roberts
ISBN: 9781906396527
Dyddiad Cyhoeddi: 20 Mawrth 2013
Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas
Fformat: Clawr Meddal, 210x148 mm, 520 tudalen
Iaith: Cymraeg
♥ Llyfr y Mis: Ebrill 2013
Dyma'r ail yn y drioleg o nofelau gan Wiliam Owen Roberts. Mae'r teulu a ddihangodd o Petrograd bellach wedi chwalu i ddwy o ddinasoedd mwyaf dylanwadol Ewrop. Pa ffiniau gwleidyddol a phersonol fydd yr émigrés yn eu croesi yn y nofel hon? Cawn ddilyn eu hanes rhwng 1925 ac 1933 wrth iddynt geisio creu bywyd newydd iddynt eu hunain.
Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:
Bywgraffiad Awdur:
Cafodd Wiliam Owen Roberts ei eni a'i fagu yng Ngarndolbenmaen. Bu'n fyfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth rhwng 1978 ac 1981 gan raddio mewn Llenyddiaeth Gymraeg ac Astudiaethau Theatr. Ymgartrefodd yng Nghaerdydd a daeth yn awdur amser llawn yn 1989.
Mae Wil yn awdur toreithiog sy'n ysgrifennu ar gyfer y radio, teledu a'r theatr, ond y mae'n fwyaf adnabyddus fel nofelydd. Eisoes cyhoeddodd Bingo (1985), Y Pla (1987), Paradwys (2001) a Petrograd (2008). Enillodd Petrograd Wobr Llyfr y Flwyddyn yn 2009.
Cyhoeddwyd argraffiad newydd o'r Pla gan Gyhoeddiadau Barddas eleni.
Gwybodaeth Bellach:
Yn ôl un o gymeriadau'r nofel hon, "Rhywbeth byrhoedlog ydi pob llyfr hanas. Ymdrech dila i ddal drych o flaen wyneb cymhleth bywyd." Mae Paris yn nofel sydd wedi ei hysgrifennu ar gynfas eang, ac sy'n rhoi llais i fyrdd o gymeriadau wrth iddynt geisio ymgodymu â bywyd.
Caru, colli, perthyn - dyma'r llinynnau sy'n rheoli bywydau'r émigrés, ac yn gefndir i'r cyfan mae'r grymoedd gwleidyddol sydd ar gerdded. Wrth i aelodau o deulu Alyosha ailymddangos yn ei fywyd fesul un, y cwestiwn mawr yw ai dyma'r darlun roedd o'n ei chwennych?