CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Pijin

Alys Conran

Pijin

Pris arferol £8.99
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Alys Conran

ISBN: 9781910901359
Dyddiad Cyhoeddi: 24 Mai 2016
Cyhoeddwr: Parthian Books, Aberteifi
Addaswyd/Cyfieithwyd gan Sian Northey
Fformat: Clawr Meddal, 203x127 mm, 264 tudalen
Iaith: Cymraeg

 Llyfr y Mis: Mehefin 2016
Mae fan hufen iâ yn stryffaglu i fyny'r allt trwy gawod o genllysg. Rhed bachgen a merch ar ei hôl a'i dilyn i'w byd hud a lledrith. Clywir eu lleisiau yn adrodd stori sy'n chwalu muriau plentyndod gan atsain ar draws y blynyddoedd. Cyfieithiad Cymraeg Sian Northey o Pigeon.
Bywgraffiad Awdur:
Mae ffuglen, barddoniaeth a chyfieithiadau Alys wedi ennill sawl gwobr iddi, gan gynnwys y Bristol Short Story Prize a'r Manchester Fiction Prize. Ar ôl astudio Llenyddiaeth Saesneg yng Nghaeredin cwblhaodd radd MA mewn ysgrifennu creadigol ym Manceinion. Mae hefyd wedi cynnal prosiectau oedd yn rhoi cyfle i garfanau o'r boblogaeth yng Ngogledd Cymru, nad ydynt yn draddodiadol yn ymwneud ag ysgrifennu creadigol a darllen, i wneud hynny. Dyfarnwyd ysgoloriaeth iddi'n ddiweddar i ysgrifennu ail nofel.

Mae Sian Northey yn awdur profiadol mewn sawl maes. Dewiswyd ei nofel Yn y Tŷ Hwn (Gomer, 2011) ar gyfer "silff lyfrau" Cyfnewidfa Lên Cymru, roedd ei chyfrol gyntaf o gerddi, Trwy Ddyddiau Gwydr (Carreg Gwalch, 2013) ar restr fer Llyfr y Flwyddyn, mae wedi ysgrifennu sawl nofel i blant ac mae'n rhan o dîm sgriptio Pobol y Cwm. Ym maes cyfieithu mae ei diddordebau a'i phrofiad yr un mor eang, gan amrywio o lyfrau ffeithiol a hunangofiannau i farddoniaeth.
Gwybodaeth Bellach:
Mae fan hufen iâ yn stryffaglu i fyny'r allt trwy'r cenllysg. Rhed bachgen a merch ar ei hôl a'i dilyn i gaddug eu dychymyg. Clywir eu lleisiau cyfareddol yn adrodd stori sy’n chwalu mur plentyndod ac yn atsian ar draws y blynyddoedd.
Stori am gyfeillgarwch plant a sut y bygythir y cyfeillgarwch hwnnw yw Pijin. Dyma drasiedi rymus sydd ar adegau'n eithriadol ddoniol. Fel yn y Saesneg gwreiddiol mae'r ddwy iaith yn rhan anhepgor o wead stori am euogrwydd, am golli iaith a cholli diniweidrwydd ac am y math o gariad all oresgyn hyn i gyd.
• Bydd y nofel Saesneg wreiddiol (ISBN 978-1-910901-23-6) yn cael ei chyhoeddi ar yr un pryd.
• Mae ffuglen, barddoniaeth a chyfieithiadau Alys wedi ennill sawl gwobr iddi, gan gynnwys y Bristol Short Story Prize a'r Manchester Fiction Prize.
• Mae enw Alys yn cael ei gynnig ar gyfer digwyddiad yng Ngŵyl Caeredin 2016.
• Hwn yw un o'r wyth llyfr sydd yn rhan o'r Parthian Europa Carnivale, prosiect cyfieithiadau llenyddol, uchelgeisiol y wasg.
• Cyfieithwyd y nofel i'r Gymraeg gan y bardd a'r awdur Sian Northey.