CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Pla

Albert Camus | Anna Gruffydd

Pla

Pris arferol £8.95
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Albert Camus

ISBN: 9781845278717
Dyddiad Cyhoeddi: 14 Ebrill 2022
Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch
Addaswyd/Cyfieithwyd gan Anna Gruffydd.
Fformat: Clawr Meddal, 215x138 mm, 228 tudalen
Iaith: Cymraeg

Addasiad Cymraeg Anna Gruffydd o La Peste gan Albert Camus. Dyma stori afaelgar o arswyd, goroesiad a dycnwch dynol, ac o'r modd y mae dynolryw yn wynebu marwolaeth. Nofel grefftus, feistrolgar, epigol sy'n ddyfnddwys berthnasol i'n cyfnod ni yn oes Cofid.

Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:
Bywgraffiad Awdur:
Brodor o Ben Llŷn ydi Anna Gruffydd ac iaith bro ei mebyd mae'n ei siarad fyth er na fu'n byw yno ers ei phumlwydd. Mae cyfieithu ym mêr ei hesgyrn ers bore'i hoes - er ei phleser personol ei hun, i'w myfyrwyr pan oedd yn dysgu drama yng Nghaerdydd, ar gomisiwn i amryfal weisg a theatrau, ac ers 1993 yn gweithio ar ei liwt ei hun i gyrff lawer.

Gwybodaeth Bellach:
Awdur ac athronydd o Ffrancwr oedd Albert Camus – yn ddi-os yn un o awduron pwysica'r ugeinfed ganrif, yn enillydd Gwobr Llenyddiaeth Nobel ym 1957. Ystyrir ei nofel La Peste yn glasur modern ac wrth gwrs, gwaetha'r modd, mae'n bur berthnasol i ni yn yr oes sydd ohoni ac wedi ennill bri o'r newydd drwy'r gwledydd yn sgìl brigo COVID-19. Er nad oes yna gysylltiad o fath yn y byd rhwng y marw du yn nofel Camus a COVID-19, y perthnasedd ydi anian gyffredin, athronyddol y teimladau mae Camus yn eu disgrifio yn La Peste.