CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Pry ar y Wal

Eigra Lewis Roberts

Pry ar y Wal

Pris arferol £8.99
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Eigra Lewis Roberts
ISBN: 9781785620898
Dyddiad Cyhoeddi: 03 Gorffennaf 2017
Cyhoeddwr: Gomer, Llandysul
Fformat: Clawr Meddal, 196x130 mm, 288 tudalen
Iaith: Cymraeg
 Llyfr y Mis: Awst 2017
Nofel am fywyd mewn pentref cyffredin yng ngogledd Cymru, lle caiff bywydau'r trigolion eu hysgwyd pan fo Owen Myfyr Owen yn dychwelyd i fyw i'w bentref genedigol, gan fygwth datgelu cyfrinachau pawb. 'Dyma Eigra ar ei gorau...' Manon Rhys.
Bywgraffiad Awdur:
Mae Eigra Lewis Roberts yn un o lenorion gorau a mwyaf
adnabyddus Cymru. Mae wedi ennill dwy Fedal Ryddiaith, Coron a Medal
Ddrama’r Eisteddfod Genedlaethol.

Mae’n MA er Anrhydedd ym Mhrifysgol Cymru, yn Gymrawd o’r Academi ac o
Brifysgol Cymru Bangor, lle graddiodd yn y Gymraeg. Yn wreiddiol o Flaenau Ffestiniog, mae’n byw yn Nolwyddelan ers blynyddoedd bellach.
Gwybodaeth Bellach:
‘Drwy gyfrwng ei rhyddiaith gain, mae Eigra’n ein gwahodd i
glustfeinio ar gelwydd a rhagrith ei chymeriadau ac i rannu eu
cyfrinachau dyrys.’ Manon Rhys

Mae pob dim i’w weld yn ddigon normal yn y Bryn, pentref cyffredin yng
ngogledd Cymru, lle mae pawb yn byw eu bywydau heb fawr ddim trybini a phawb yn tynnu ’mlaen, fwy neu lai. Yna, daw Owen Myfyr Owen yn ôl i’w plith, wedi cyfnod hir yn gweithio fel newyddiadurwr yn y Sowth, ac mae am setlo hen sgôr a bygwth datgelu cyfrinachau pawb a rhyddhau sgerbydau o’u cypyrddau.

Yn gwylio’r cyfan y mae Jo – hogyn di-nod sy’n fawr o beth i edrych arno, a heb fod yn llawn llathen yng ngolwg pobl y pentref. Ond mae Jo, fel pry ar y wal, yn gweld pob dim sy’n digwydd yn y Bryn ac mae’n deall llawer mwy nag y mae unrhyw un yn ei sylweddoli.

Dyma stori afaelgar gan feistres y nofel, sy’n ymhél ag elfennau seicolegol drwy dwrio o dan groen bywyd bob dydd.