CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Rhyd y Gro

Siân Northey

Rhyd y Gro

Pris arferol £8.99
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Siân Northey

ISBN: 9781848515468
Dyddiad Cyhoeddi: 31 Mawrth 2016
Cyhoeddwr: Gomer, Llandysul
Fformat: Clawr Meddal, 198x126 mm, 208 tudalen
Iaith: Cymraeg

Nofel gywrain am gwlwm teulu, am gariad a cholled ac am y modd yr ydym yn gwau edafedd y gorffennol i greu ein storïau bratiog ein hunain.

Bywgraffiad Awdur:
Yn wreiddiol o Drawsfynydd, mae Sian bellach yn byw ym
Mhenrhyndeudraeth. Er mawr syndod iddi mae'n llwyddo i ennill bywoliaeth trwy ysgrifennu, cynnal gweithdai a chyfieithu.
Gwybodaeth Bellach:
Stori yw'r gorffennol a'i chartref yw'r cof.
Dyma hanes Efa a Steffan, merch a thad, dieithriaid, i bob pwrpas, sy'n dod i adnabod ei gilydd yn ystod cyfnod dwys ym mywydau'r ddau. Ond mae cymeriadau eraill yn llechu ar y cyrion, rhai arwyddocaol o ieuenctid Steffan − Carys (mam Efa), Lora a Rhydian Gwyn, y mwyaf enigmatig ohonynt. A beth tybed yw pwysigrwydd y pethau a ddigwyddodd yn Rhyd y Gro, y tŷ a fu'n gartref i'r pedwar ffrind?
Yn y nofel deimladwy, synhwyrus hon mae Sian Northey yn edrych ar gariad a cholled ac ar sut yr ydym yn gwau ynghyd edafedd y gorffennol i greu ein storïau bratiog.
Dyma'r ail nofel i oedolion gan yr awdures dalentog hon. Denodd ei nofel gyntaf, Yn y Tŷ Hwn, ganmoliaeth uchel iawn.