CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Sol a Lara

Tony Bianchi

Sol a Lara

Pris arferol £8.99
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Tony Bianchi

ISBN: 9781848518018
Dyddiad Cyhoeddi: 24 Mawrth 2016
Cyhoeddwr: Gomer, Llandysul
Fformat: Clawr Meddal, 196x128 mm, 298 tudalen
Iaith: Cymraeg

Nofel gynhyrfus, lawn dirgelion, am yr effaith y gall bywydau pobl ei gael ar eraill. Dyma nofel newydd gan gyn-enillydd y Fedal Ryddiaith a Gwobr Goffa Daniel Owen.

Bywgraffiad Awdur:
Cyhoeddodd Tony Bianchi chwe nofel arall, gan gynnwys Dwy Farwolaeth Endaf Rowlands, a enillodd y Fedal Ryddiaith yn 2015, a Pryfeta, a enillodd Wobr Goffa Daniel Owen yn 2007. Mae hefyd yn awdur cyfrol o storϊau byrion, Cyffesion Geordie Oddi Cartref. Mae'n byw yng Nghaerdydd.
Gwybodaeth Bellach:
Mae Lara'n byw yng ngorllewin Cymru gyda'i mam a'i hiraeth am ei chariad coll. Ni welodd hwnnw ers pum mlynedd, a dyw e ddim yn ateb ei negeseuon. Ond mae Lara'n gwrthod anobeithio.
Draw yng Nghaerdydd, mae Sol yn carco plant ei gariad yntau. Yna mae'n clywed rhywun yn cicio'r drws ac yn gweiddi'i enw. A dyw e ddim yn gwybod ble i droi.
O fewn ychydig wythnosau, mae Sol a Lara'n dod i adnabod ei gilydd yn well nag y byddai neb wedi'i ddisgwyl.