CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Taffia

Llwyd Owen

Taffia

Pris arferol £8.99
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Llwyd Owen

ISBN: 9781784612498 
Dyddiad Cyhoeddi: 01 Ebrill 2016
Cyhoeddwr: Y Lolfa
Fformat: Clawr Meddal, 195x130 mm, 240 tudalen
Iaith: Cymraeg

Mae'r Ditectif Danny Finch yn colli ei swydd ar ôl cael ei gyhuddo o dwyll, gan golli popeth - ei swydd, ei bensiwn a'i hunan-barch. Caiff waith fel swyddog diogelwch i Pete Gibson, 'dyn busnes' lleol. Mae Danny'n cau ei lygaid i fusnes anghyfreithlon ei fòs ond, ar ôl gwrthod cyfle i fod yn rhan o 'fusnes' Gibson, mae'r dihiryn yn cynllwynio yn ei erbyn.

Gwybodaeth Bellach:
Gyda themâu sy’n cynnwys twyll (ar lefel bersonol a sefydliadol), trais a dial, perthnas pobl â'i gilydd, edifeirwch a methiant, dyma nofel anturus fydd yn cyffroi darllenwyr ac yn eu annog i gadw ati i droi’r tudalennau.

Bydd Danny Finch yn adnabyddus i rai o ddarllenwyr nofelau eraill Llwyd Owen, gan iddo ymddangos fel cymeriad ymylol yn Mr Blaidd a Heulfan.

Dyma ddegfed nofel yr awdur Llwyd Owen o Gaerdydd - a'i wythfed yn y Gymraeg. Mae Llwyd Owen bellach wedi ei sefydlu ei hun fel un o awduron Cymraeg cyfoes mwyaf adnabyddus y wlad ac mae ei waith yn apelio at ddarllenwyr o bob oed. Fel cyn-enillydd Llyfr y Flwyddyn am ei nofel Ffydd Gobaith Cariad (2007), bydd nofel ddiweddaraf yr awdur hwn yn siŵr o lenwi bwlch yn y farchnad lenyddol Gymreig gan gynnig rhywbeth gwahanol i ddarllenwyr Cymru.