Awdur: Caryl Lewis
ISBN: 9781784611637
Dyddiad Cyhoeddi: 01 Mehefin 2016
Cyhoeddwr: Y Lolfa, Tal-y-bont
Fformat: Clawr Meddal, 195x132 mm, 160 tudalen
Iaith: Cymraeg
Nofel sy'n troi o gwmpas tri chymeriad, Enoch, Isaac ac Owen. Mae'r stori'n dechrau pan ddaw Owen i aros mewn adfail o fwthyn ar dir fferm fynyddig. Nofel delynegol, gynnil, a byd natur yn ganolog i'r digwyddiadau cofiadwy. Enillydd Llyfr y Flwyddyn 2016.
Gwybodaeth Bellach:
Mae Owen, o'r ddinas, yn dod i aros mewn bwthyn ar dir fferm fynyddig Hen Hafod lle mae Enoch ac Isaac yn byw. Mae tyndra amlwg o'r dechrau - rhwng Owen a'r teulu, a rhwng y tad a'r mab.
Mae yma dri cymeriad sydd yn profi newid yn eu perthynas a'u gilydd wrth i'r stori fynd rhagddi, gan arwain at ddiweddglo grymus, llawn tensiwn.