CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Yn y Tŷ Hwn

Siân Northey

Yn y Tŷ Hwn

Pris arferol £6.99
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Siân Northey

ISBN: 9781848511583
Dyddiad Cyhoeddi: 06 Mai 2011
Cyhoeddwr: Gomer, Llandysul
Fformat: Clawr Meddal, 196x128 mm, 144 tudalen
Iaith: Cymraeg

 Llyfr y Mis: Mai 2011
Gan fod ei choes mewn plastar bu Anna'n gaeth i'w thŷ am wythnosau. Wrth i ni gerdded o gwmpas ystafelloedd Nant yr Aur yn ei chwmni fe sylweddolwn fod ei gorffennol ynghlwm wrth y tŷ a hynny ers degawdau. Ond erbyn i Anna gryfhau digon i allu cerdded heb ffyn baglau, mae'r gorffennol hwnnw wedi newid yn llwyr.
Bywgraffiad Awdur:
Mae Sian Northey yn fam ac yn nain ifanc sydd wedi hen ennill ei phlwy fel awdur llên micro. Ei theulu sy’n cadw siop lyfrau yr Hen Bost ym Mlaenau Ffestiniog. Yn awdur, bardd a golygydd, llenydda yw ei byd. Hon yw ei nofel gyntaf i oedolion.
Gwybodaeth Bellach:
Bu Anna’n gaeth i’w thŷ am wythnosau a’i choes mewn plastar. Wrth i ni dreulio amser yn ei chwmni yn Nant yr Aur fe ddaw’n amlwg fod y tŷ wedi ei chaethiwo ers degawdau. Erbyn iddi gryfhau digon i allu cerdded heb ffyn baglau mae ei gorffennol wedi newid yn llwyr. Yn ogystal â bod yn folawd i fan a lle, mae’r nofel delynegol hon yn ymdrin â chymhlethdod emosiynol cwlwm perthyn.

Pencampwraig y dweud cynnil yw Sian Northey, y math o ddweud sy’n cyfleu cymaint mwy na’r geiriau sydd ar y tudalen. Dyma awdur sy’n dilyn yr egwyddor werdd i’r llythyren drwy beidio ag afradloni geiriau.