CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Yr Eumenides

Daniel Davies

Yr Eumenides

Pris arferol £8.50
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Daniel Davies

ISBN: 9781845276270 
Dyddiad Cyhoeddi: 08 Mawrth 2017
Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch, Llanrwst
Fformat: Clawr Meddal, 198x128 mm, 244 tudalen
Iaith: Cymraeg

Nofel grafog a doniol am anghyfiawnder cymdeithasol, am Gymru, Ciwba, Corea a physgod cregyn.

Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:
Bywgraffiad Awdur:
Daw Daniel Davies o Lanarth yn wreiddiol ond mae bellach yn byw yn Penrhyn-coch, ger Aberystwyth. Ymysg ei nofelau mae Gwylliaid Glyndŵr (2007), Hei-Ho! (2009) ac Allez Les Gallois! (2016). Enillodd ei gyfrol Tair Rheol Anrhefn Wobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam a'r Fro yn 2011, a daeth y nofel hon yn agos i'r brig yn yr un gystadleuaeth yn 2016.


Gwybodaeth Bellach:
Roedd Gwen, Ina a Nora yn eu hwythdegau ac yn hollol sgint. Hynny yw, roedd y tair yn sgint nes iddyn nhw feddwl am gynllun anturus i wneud miloedd o bunnau ... a cheisio manteisio ar yr argyfwng tai haf yn eu pentref trwy ddulliau annisgwyl.

‘Nid wyf yn credu i mi chwerthin cymaint wrth ddarllen nofel Gymraeg ers tro.’ Gareth F. Williams

‘Hawdd yw dychmygu Yr Eumenides yn cyfieithu’n ffilm boblogaidd.’ Jon Gower