CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Cam i'r Gorffennol - Safleoedd Archaeolegol yng Ngogledd Cymru

Gwasg Carreg Gwalch

Cam i'r Gorffennol - Safleoedd Archaeolegol yng Ngogledd Cymru

Pris arferol £8.50
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Rhys Mwyn

ISBN: 9781845274856 
Dyddiad Cyhoeddi: 19 Tachwedd 2014
Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch, Llanrwst
Fformat: Clawr Meddal, 215x137 mm, 184 tudalen
Iaith: Cymraeg

Yn y gyfrol hon mae Rhys Mwyn yn dewis dwsin a mwy o safleoedd o ddiddordeb archeolegol a/neu hanesyddol yng ngogledd Cymru, sef perlau cudd na chafodd fawr o sylw cyn hyn, gan gyflwyno ysgrifau yn trafod y safleoedd unigol. Cynhwysir lluniau du-a-gwyn, mapiau clir, cyfarwyddiadau ar gyfer cyrraedd y safleoedd a llyfryddiaeth ddefnyddiol.

Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:
Gwybodaeth Bellach:
Yn cynnwys y safleoedd canlynol:
1. Mynydd Rhiw
2. Bryn Celli Ddu
3. Barclodiad y Gawres
4. Carneddau Hengwm
5. Bryn Cader Faner
6. Tre’r Ceiri
7. Pen y Gaer
8. Cytiau’r Gwyddelod
9. Din Lligwy
10. Dinas Emrys
11. Tomen y Mur
12. Safleoedd Milwrol yr Ugeinfed Ganrif.