CLUDIANT AM DDIM DROS £45 | 01239 621370

Cerdded Mewn Cell

Robin Llywelyn

Cerdded Mewn Cell

Pris arferol £8.99
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Robin Llywelyn

ISBN: 9781784616571
Dyddiad Cyhoeddi: 11 Hydref 2018
Cyhoeddwr: Y Lolfa, Tal-y-bont
Fformat: Clawr Meddal, 194x130 mm, 192 tudalen
Iaith: Cymraeg

Casgliad o straeon byrion gogleisiol a ffraeth gan un o awduron mwyaf adnabyddus Cymru. Dyma gyfrol gyntaf Robin Llywelyn yn Gymraeg ers cyhoeddi’r casgliad o straeon, Y Dŵr Mawr Llwyd yn 1995.

Bywgraffiad Awdur:
Mae Robin Llywelyn hefyd yn rheolwr pentre Eidalaidd Portmeirion. Ei dad-cu oedd y pensaer Syr Clough Williams-Ellis ac mae’r pentref yn adnabyddus am ei gysylltiad â chyfres deledu boblogaidd The Prisoner.
Mae gwaith yr awdur yn destun cyfrol yng nghyfres Llên y Llenor ac yn cael ei astudio mewn ysgolion a cholegau. Mae ei waith wedi ei addasu i Saesneg, Ffrangeg ac Eidaleg.
Gwybodaeth Bellach:
‘Awdur digamsyniol ei ddawn a rhyfeddol ei gamp’ yn ôl un beirniad. Fel y disgwylid gan yr awdur, mae’r storïau yn fywiog, yn wreiddiol, yn ogleisiol, yn ffraeth, yn llawn o'r annisgwyl, yn dyner ac yn drist.
Gwobrau:
Mae'r awdur wedi ennill gwobrau niferus, gan gynnwys y Fedal Ryddiaith ddwywaith am Seren Wen ar Gefndir Gwyn (1992) ac O'r Harbwr Gwag i'r Cefnfor Gwyn (1994). Enillodd Seren Wen wobr Llyfr y Flwyddyn yn 1993 ac fe enillodd Robin wobr Awdur y Flwyddyn y BBC yn 1994. Enillodd wobr Daniel Owen yr Eisteddfod Genedlaethol am y nofel Un Diwrnod yn yr Eisteddfod yn 2004.