CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Clymau

Gomer

Clymau

Pris arferol £9.99
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

ISBN: 9781785620034
Dyddiad Cyhoeddi: 24 Hydref 2019
Cyhoeddwr: Gomer, Llandysul
Golygwyd gan Jon Gower
Fformat: Clawr Meddal, 197x128 mm, 212 tudalen
Iaith: Cymraeg

Beth sy'n ein clymu at ein gilydd? Cariad, ofn, dyletswydd, y gorffennol ... ein hunain? Rhwng cloriau Clymau cawn gip diddanus ar sawl agwedd, trist, doniol, absŵrd ac annisgwyl ar y cyflwr dynol. Dyma gyfrol fentrus o straeon byrion gan 14 awdur dawnus, pob stori â thro yn y gynffon, a phob un yn adleisio rhyw agwedd ar y stori flaenorol ac weithiau, ar storïau eraill hefyd.

Bywgraffiad Awdur:
Cyfranwyr y gyfrol: Jon Gower, Wiliam Owen Roberts, Lloyd Jones, Tony Bianchi, Fflur Dafydd, Owen Martell, Nerys Lloyd, Geraint Lewis, Catrin Daniel, Euron Griffith, Huw Lawrence, Alun Horan, Rhys Iorwerth, Huw Chiswell.
Gwybodaeth Bellach:
Casgliad o straeon byrion gan amrywiaeth o lenorion Cymru

Beth sy’n ein clymu at ein gilydd? Cariad, ofn, dyletswydd, y gorffennol ... ein hunain?

• Rhwng cloriau Clymau cawn gip diddanus ar sawl agwedd, trist, doniol, absẃrd ac annisgwyl ar y cyflwr dynol.
• Dyma gyfrol fentrus o straeon byrion gan bedwar ar ddeg o awduron dawnus, gan gynnwys hen feistri, e.e. Jon Gower, Wiliam Owen Roberts, Tony Bianchi a Fflur Dafydd, enwau sy’n newydd i’r genre fel Alun Horan, Huw Chiswell a Rhys Iorwerth.
• Ond mae ’na dro yn y gynffon. Er bod pob stori yn sefyll ar ei thraed ei hun, mae’r cyfraniadau unigol yn adleisio agwedd ar ryw stori arall yn y gyfrol. Y canlyniad yw cyfanwaith sy’n rhwydwaith o glymau yn dynwared yr union glymau sy’n rhwymo pobl mewn cymdeithas.