CLUDIANT AM DDIM DROS £45 | 01239 621370
Awdur: Sarah KilBride
ISBN: 9781802580181
Dyddiad Cyhoeddi: 18 Tachwedd 2021
Cyhoeddwr: Graffeg
Darluniwyd gan James Munro
Addaswyd/Cyfieithwyd gan Anwen Pierce.
Fformat: Clawr Caled, 157x155 mm, 48 tudalen
Iaith: Cymraeg
Gair Cymraeg am fôr o gariad yw 'cwtsh'. Mae’r gerdd ddarluniadol, hyfryd hon yn gwneud i ni feddwl am yr ystum o gwtsho mewn ffordd newydd, er mwyn rhannu ei gynhesrwydd a’i allu i iacháu. Addasiad Cymraeg Anwen Pierce o A Cuddle and a Cwtch.
Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:
Bywgraffiad Awdur:
Awdur o ardal y Mynydd Du yw Sarah KilBride, ac ymhlith ei llyfrau y mae Being a Princess is Very Hard Work a’r gyfres hynod boblogaidd Princess Evie’s Ponies. Gan iddi ddysgu ysgrifennu gyda phen ac inc, roedd Sarah wrth ei bodd yn creu’r ffont ar gyfer y llyfr hwn gan ddefnyddio’r plu yn ei chasgliad. Wedi iddi raddio o goleg drama yn y ganrif ddiwethaf, mae Sarah wedi cydweithio â geiriau a phobl ifanc, yn ei gwaith fel actores, athrawes ac awdur.
Gwybodaeth Bellach:
Mae testun Sarah KilBride yn cyflwyno’r syniad o gwtsh i’r darllenydd, yr hyn y gall cwtsh ei wneud, a pha mor arbennig yw rhoi a derbyn cwtsh, waeth beth yw ein hoedran.