CLUDIANT AM DDIM DROS £45 | 01239 621370

Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Eisteddfod Amgen 2021

Eisteddfod Genedlaethol Cymru

Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Eisteddfod Amgen 2021

Pris arferol £10.00
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

ISBN: 9781913257019
Dyddiad Cyhoeddi: 06 Awst 2021
Cyhoeddwr: Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Golygwyd gan Gwyn Lewis
Fformat: Clawr Caled, 211x149 mm, 184 tudalen
Iaith: Cymraeg

Cyfrol yn cynnwys cyfansoddiadau llenyddol buddugol a beirniadaethau Eisteddfod Amgen 2021.

Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:

Gwybodaeth Bellach:
Diolch i weledigaeth swyddogion yr Eisteddfod a’u hawydd i roi cyfle i bobl gael cystadlu unwaith eto wedi cyfnod o ddwy flynedd, trefnwyd Eisteddfod AmGen ar gyfer Awst 2021. Cyhoeddwyd Rhestr Testunau AmGen ar wefan yr Eisteddfod ar 29 Mawrth 2021 – ffrwyth llafur aelodau Pwyllgor Diwylliannol a Phaneli Canolog y Cyngor – gydag un neu ddwy gystadleuaeth newydd ac arbrofol yn cael eu cynnig ynghyd â’r testunau mwy cyfarwydd a thraddodiadol. 'Gan fod cystadlaethau Gwobr Goffa Daniel Owen a'r Fedal Ryddiaith ar gyfer yr Eisteddfod a oedd i fod i'w chynnal yng Ngheredigion 2020 eisoes wedi'u beirniadu, penderfynwyd eu cynnwys eleni yn rhan o weithgareddau Eisteddfod AmGen.

Yn ychwanegol at y ddwy gystadleuaeth hon, gosodwyd 29 cystadleuaeth cyfansoddi arall (sydd oddeutu hanner y nifer a osodir yn arferol) ac mae gwaith 236 o gystadleuwyr yn cael sylw rhwng cloriau’r gyfrol eleni o fewn yr adrannau a ganlyn: Barddoniaeth (92), Rhyddiaith (64), Theatr (10), Dysgu’r Gymraeg (53), a Cherddoriaeth (17) – nifer calonogol iawn o ystyried mai prin ddeufis gafodd y cystadleuwyr i greu eu cyfansoddiadau cyn y dyddiad cau ar 1 Mehefin! 'Y mae yna 17 cyfansoddiad buddugol i chi gael eu mwynhau a'u gwerthfawrogi yn y gyfrol (ynghyd â 33 beirniadaeth).