CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Lewisiana

D. Geraint Lewis

Lewisiana

Pris arferol £9.99
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: D. Geraint Lewis

ISBN: 9781845120351 
Dyddiad Cyhoeddi: 13 Hydref 2005
Cyhoeddwr: Cymdeithas Lyfrau Ceredigion, Aberystwyth
Fformat: Clawr Caled, 185x118 mm, 210 tudalen
Iaith: Cymraeg

Llyfr hylaw ac unigryw yn cynnwys trysorfa o wybodaeth ddiddan ac adloniannol. Y mae'r pwyslais ar Gymru a Chymreictod, ac mae'n gyfrol sy'n amhosibl ei rhoi o'r neilltu.

Gwybodaeth Bellach:
RHESTR LEWIS AM BOPETH, BRON . . .
'Awyr goch y bora, brithion gawoda;
Awyr goch y prynhawn, tegwch a gawn.'
Fel llyfrgellydd, mae D. Geraint Lewis yn gwerthfawrogi grym y rhestr, boed hynny ar ffurf catalog, llyfryddiaeth, mynegai, neu unrhyw lyfr cyfair a dweud y gwir. Yn ei amser hamdden mae wedi llunio geiriaduron a llyfrau eraill sydd i gyd yn rhestri o ryw fath neu’i gilydd. Bellach, mae modd mwynhau holl ffrwyth ei lafur mewn un gyfrol odidog.
Mae Lewisiana, a gyhoeddir gan Gymdeithas Lyfrau Ceredigion, yn ddetholiad sy’n cynnig ystod eang o wybodaeth, o’r defnyddiol i’r diddorol i’r anghyffredin, ac yn gyfrol y gellir pori ynddi dro ar ôl tro. Trwy gofnodi, cofrestru a chyfannu amrywiaeth eang o fanylion, mae’n sicrhau nad aiff yr wybodaeth fyddai’n arfer cael ei rhannu ar goedd dros genedlaethau, yn mynd i ddifancoll.
Fel y dyweda Dylan Williams o Gymdeithas Lyfrau Ceredigion, 'cyfrol ydyw sy'n eich arwain at wybodaeth na wyddech na wyddech chi ddim yw prif amcan D. Geraint Lewis yn Lewisiana; ac mae’r pwyslais bron i gyd ar ffeithiau a rhestri am Gymru, Cymreictod a’r Gymraeg.'
Mae’r rhelyw ohonom yn dibynnu ar restri yn ein bywydau bob dydd, a hynny heb yn wybod i ni gan amlaf, fel yr eglura D. Geraint Lewis, 'Pwrpas symlaf rhestr yw bod yn gofweinydd – rhestr siopa neu restr o orchwylion i’w cyflawni yn ystod y dydd,' meddai cyn ychwanegu, 'Ail bwrpas rhestr yw gosod gwybodaeth mewn ffordd hawdd ei chyrraedd – gwybodaeth yr ydych wedi’i hanghofio neu ffeithiau nad ydych chi’n eu gwybod.'
Serch hynny, roedd gan D. Geraint Lewis ddiben amgenach wrth fynd ati i gasglu ynghyd y ffeithiau hyn, sy’n rhychwantu popeth o chwilio am oed moch i gyfrinachau Gorsedd Beirdd Ynys Prydain, o ddeg peth i’w gwneud gyda sach i ystyr y gair ‘congrinero’!
Meddai’r awdur, sy’n wreiddiol o Ynys-y-bŵl ond bellach yn byw yn Llangwyryfon, ger Aberystwyth, 'Un o’r pethau oedd yn fy nenu i at lyfr o restri oedd cyfle i fynd i’r afael â math arall o anwybodaeth. Os amcan llyfr cyfair yw eich arwain at wybodaeth yr ydych chi’n gwybod nad ydych chi’n ei gwybod, prif amcan y gyfrol fach hon yw eich arwain at wybodaeth nad oeddech chi’n gwybod nad oeddech chi’n ei gwybod!' chwardda.
Does dim dwywaith y bydd y llyfr clawr caled hwn yn bendant yn gwneud hynny. Dyma gyfrol i’w thrysori - un fydd yn gydymaith oes.