CLUDIANT AM DDIM DROS £45 | 01239 621370

Plu

Caryl Lewis

Plu

Pris arferol £7.95
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Caryl Lewis

ISBN: 9781847711045
Dyddiad Cyhoeddi: 22 Tachwedd 2018
Cyhoeddwr: Y Lolfa, Tal-y-bont
Fformat: Clawr Meddal, 195x130 mm, 144 tudalen
Iaith: Cymraeg

Dyma ddeuddeg o storiau cyfareddol sy'n darlunio'r berthynas rhwng dyn a'i gyd-ddyn. Gyda natur yn gefnlen a hwnnw'n newid o dymor i dymor, mae'r plu'n llinyn cyswllt sy'n gwau drwy'r storiau, megis 'Elyrch' a 'Sguthan', gan oglais a swyno dychymyg y darllenydd. Adargraffiad. Cyhoeddwyd yn gyntaf yn 2008.

Bywgraffiad Awdur:
Daw Caryl Lewis o Ddihewyd, Ceredigion, ac mae bellach yn byw ym mhentref Goginan ger Aberystwyth. Enillodd ei hail nofel Martha Jac a Sianco, wobr Llyfr y Flwyddyn 2005 a'i nofel i bobl ifanc, Iawn Boi?, wobr Tir na n'Og yn 2004. Cafodd ei nofelau Y Rhwyd a Martha Jac a Sianco eu haddasu ar gyfer y sgrin fach. Mae Caryl hefyd yn ysgrifennu ar gyfer y theatr a theledu a chaiff fwynhad mawr wrth ysgrifennu ei chyfres boblogaidd ar gyfer plant bach, sef cyfres Bili Boncyrs.
Gwybodaeth Bellach:
Dyma ddeuddeg o storiau cyfareddol sy'n darlunio'r berthynas rhwng dyn a'i gyd-ddyn. Gyda natur yn gefnlen a hwnnw'n newid o dymor i dymor, mae'r plu'n llinyn cyswllt sy'n gwau drwy'r storiau gan oglais a swyno dychymyg y darllenydd.

Llwydda'r awdur i greu darluniau sensitif llawn cydymdeimlad a bywydau a chynefinoedd y Gymru wledig, ac wrth greu delweddau cryno a chofiadwy ceir sawl adlais o'r nofel Martha Jac a Sianco. Dyma gyfrol grefftus arall gan un o awduron mwyaf dawnus y Gymraeg.