CLUDIANT AM DDIM DROS £45 | 01239 621370

Tapas

Gwasg Gwynedd

Tapas

Pris arferol £6.95
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

ISBN: 9780860742814
Dyddiad Cyhoeddi: 26 Gorffennaf 2012
Cyhoeddwr: Gwasg Gwynedd, Pwllheli
Fformat: Clawr Meddal, 198x129 mm, 144 tudalen
Iaith: Cymraeg

Cyfrol o straeon byrion gan nifer o awduron ar thema gwyliau a theithio. Y cyfranwyr yw Manon Eames, Grace Roberts, Bethan Gwanas, Ioan Kidd, Manon Wyn Williams, Guto Dafydd, Janice Jones, ac Eleri Llewelyn Morris.

Gwybodaeth Bellach:
Gwledd o straeon am wyliau a theithio

Mae casgliad o straeon gwreiddiol gan rai o awduron mwyaf nodedig Cymru yn cael eu cyhoeddi mewn cyfrol newydd yr haf yma – llyfr fysa’n gwmni delfrydol ichi ar draeth poeth dramor neu wrth y tân yng Nghymru lawog!

Mae Tapas, sy’n cael ei gyhoeddi gan Wasg Gwynedd, yn gyfrol o straeon byrion ar thema gwyliau a theithio sy’n mynd â ni o Gymru i Guatemala, o Sbaen i’r India, ac o Tenerife i’r Maldives, ac yn cynnwys digonedd o rialtwch ar hyd y ffordd.

Mae yma wyth stori i gyd, a’r wyth awdur sy’n cyfrannu ydi Manon Eames, Grace Roberts, Bethan Gwanas, Ioan Kidd, Manon Wyn Williams, Guto Dafydd, Janice Jones ac Eleri Llewelyn Morris.

Dywed Guto Dafydd, sy’n wreiddiol o Drefor ger Caernarfon, “Wrth ddarllen y gyfrol dwi’n gobeithio y bydd pobl yn cael dianc am rywfaint o haf gwlyb Cymru. Dwi bob amser yn pendroni pam ydan ni’n dewis byw yng Nghymru a hithau mor damp a diflas yma. Pam ddim codi pac am yr haul, lle mae tywod yn boeth dan draed a choctels i’w cael ar lan y môr? Ond dwi’n amau bod rhai ohonon ni’n gweddu’n well i’r glaw nag i lefydd brafiach, ac mae fy stori i’n mynd ar ôl hynny.”

Mae stori Guto’n adrodd hanes Gwynfor, gŵr sydd newydd golli’i wraig ac sy’n mynd i Tenerife i aros efo hen ffrind iddo sy’n byw yno, yn y gobaith o ddod i delerau â’i brofedigaeth, mwynhau mymryn o haul a thrio gwrthod heneiddio. Ond wedi iddo gyrraedd y lle mae bywyd gwyllt y gwladychwyr o Brydain sydd ar yr ynys – y clybio a’r rhyw a’r ymyrryd mewn gwleidyddiaeth leol – yn gwneud iddo ysu am gael dianc ’nôl i Gymru fach!

Er bod teithio a gwyliau’n themâu canolog ym mhob un o’r straeon, mae pob awdur yn ymdrin â’r themâu hynny mewn ffyrdd hollol wahanol. Addas iawn, felly, ydi’r teitl Tapas – mae modd pori trwyddi wrth eich pwysau, a mwynhau gwahanol flasau atheimladau.

Dywed Marred Glynn, golygydd y gyfrol, “Ro’n i’n awyddus inni gyhoeddi cyfrol fyddai’n ddelfrydol i rywun ddarllen ar wyliau neu yn ei amser hamdden – llyfr fedri di bori ynddo fo a darllen un stori ar y tro, ella! Maen nhw’n straeon hawdd eu darllen ond eto maen nhw’n rhoi proc yma ac acw ac yn gwneud i ti feddwl. Mae’r teitl yn cyfleu’r llyfr i’r dim – yn creu awyrgylch cyfandirol ac ar un pryd yn awgrymu bod danteithion difyr y tu mewn i’r cloriau.

“Mi wnes i fwynhau’r profiad o weithio ar Tapas yn fawr iawn, er bod y talentau sy ganddon ni yma yng Nghymru yn golygu bod dewis a dethol wyth awdur i gyfrannu wedi bod yn anodd iawn. Mi wnes i’n fwriadol ddewis rhai rydan ni’n eu cysylltu â meysydd gwahanol (fel Manon Eames a Manon Wyn Williams sy’n weithgar iawn ym myd y ddrama) ond hefyd rai sy’n hen lawiau ar y stori fer (fel Eleri Llewelyn Morris a Grace Roberts).”

Un o Rosmeirch ger Llangefni, Môn ydi Manon Wyn Williams, ac mae ei stori hwyliog am griw o ferched sy’n cael eu gorfodi i dreulio oriau yng nghwmni ei gilydd yn sicir o roi gwên ar eich wyneb. All y ddwy fam-yng-nghyfraith roi eu gwahaniaethau o’r neilltu jyst am y daith lawr i Fachynlleth bell? Pwy a ŵyr!

Dywed Manon, “Ro’n i’n meddwl y bydda hi’n ddifyr cael llwyth o gymeriadau gwahanol a’u lluchio nhw i gyd at ei gilydd. Dwi’n falch iawn o gael bod yn rhan o gyfrol sy’n cynnwys cymaint o awduron nodedig. Mae ‘na alw mawr am y math yma o lyfr gan fod cyfrwng y stori fer yn un gweddol brin yn Gymraeg erbyn hyn, ac mae hynny’n biti.”

Ychwanega’r golygydd Marred Glynn, “Mae’n anodd dewis hoff stori o’r gyfrol gan fod gan yr awduron i gyd eu cryfderau eu hunain – rhialtwch dros-ben-llestri stori Manon Wyn, cynildeb rhai Manon Eames a Bethan Gwanas, awyrgylch hudolus stori Ioan Kidd, anwyldeb straeon Janice Jones a Grace Roberts, manylder a chrefft un Eleri Llewelyn Morris, a ffresni a chlyfrwch stori Guto Dafydd. Dwi wedi’u darllen nhw droeon erbyn hyn ond yn parhau i fwynhau pob un!”