Awdur: Luned Aaron
ISBN: 9781845277277
Dyddiad Cyhoeddi: 16 Ionawr 2020
Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch, Llanrwst
Fformat: Clawr Caled, 210x210 mm, 64 tudalen
Iaith: Cymraeg
Ail argraffiad o gyfrol hardd, llawn lliw sy'n cyflwyno'r Wyddor Gymraeg i blant blwydd i oedran cynradd, wedi'i chynllunio a'i darlunio gan yr artist Luned Aaron.
Bywgraffiad Awdur:
Luned Aaron yn wreiddiol o Fangor. Bellach, mae hi’n byw yng Nghaerdydd gyda’i gŵr a’i dwy ferch fach. Mae’n arddangos yn gyson mewn orielau ar hyd a lled y wlad, gan gynnwys Oriel Kooywood yng Nghaerdydd ac Oriel Tonnau ac Oriel Plas Glyn-y-Weddw yn y gogledd.
Mae hefyd wedi cyhoeddi yn yr un gyfres: Lliwiau Byd Natur (2018), 123 Byd Natur (2018) a Tymhorau Byd Natur (2019). Cyhoeddwyd Nadolig yn y Cartref (2019).
Roedd yn enillydd Gwobr Tir na n-Og am y gyfrol hon yn 2017.
Gwybodaeth Bellach:
Yn wahanol i’r rhan fwyaf o lyfrau o’r fath, mae’r holl ddelweddau collage gwreiddiol yn y gyfrol hon yn deillio o fyd natur, a hynny gan i Luned, sy’n fam i Eos ac Olwen, sylwi fod trafod byd natur yn ffordd effeithiol o gyflwyno llythrennau'r wyddor i blentyn.
Ewch ar daith natur ABC gyda’ch plentyn. Dechreuwch trwy edmygu delweddau hardd y gyfrol hon, cyn mentro allan i’r ardd i weld beth allwch chithau ei ganfod. Fe gewch chi a’ch plant eich swyno!