CLUDIANT AM DDIM DROS £45 | 01239 621370

Ar Daith Olaf

Alun Davies

Ar Daith Olaf

Pris arferol £8.99
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Alun Davies

ISBN: 9781800991071
Dyddiad Cyhoeddi: 03 Hydref 2021
Cyhoeddwr: Y Lolfa
Fformat: Clawr Meddal, 195x130 mm, 262 tudalen
Iaith: Cymraeg

Mae atgofion hunllefus achosion y gorffennol wedi gorfodi Taliesin i ymddeol fel ditectif. Mae e'n cyfrannu i bodlediad am Droseddau Gwir a phan fo linc i lofruddiaeth yn ei gyrraedd ef a Mari, y cyflwynydd, mae'n sylweddoli bod yna debygrwydd rhwng y weithred dywyll a'r hyn maen nhw wedi bod yn ei drafod ar Ffeil Drosedd. Ond pwy yw'r llofrudd a pham mae'n e'n edrych i'r gorffennol?

Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:

Bywgraffiad Awdur:

Daw Alun Davies o Aberystwyth yn wreiddiol ond mae e bellach yn byw yng Nghaerdydd. Cafodd nofelau cyntaf Alun, Ar Drywydd Llofrudd ac Ar Lwybr Dial eu canmol gan feirniaid a darllenwyr. Dyma'r drydedd yn y drioleg am Dditectif Taliesin. Mae ganddo gyfrif Twitter @ardrywyddllofrudd. Mae’n beirianydd meddalwedd ac yn rhedeg ei gwmni ymgynghoriaeth ei hun – deeg consultancy – sy'n cynnig gwasanaeth technoleg y we a chyfryngau cymdeithasol.

Gwybodaeth Bellach:
Nofel gyfoes gyffrous mewn genre poblogaidd, mae Alun Davies eisoes yn creu enw iddo'i hun ym myd nofelau trais.