Awdur: D. Geraint Lewis
ISBN: 9781843239666
Dyddiad Cyhoeddi: 17 Chwefror 2016
Cyhoeddwr: Gomer, Llandysul
Fformat: Clawr Meddal, 216x140 mm, 240 tudalen
Iaith: Cymraeg
Cyfrol werthfawr gan feistr geiriau, sef casgliad o briod-ddulliau, geiriau unigryw ac ymadroddion amrywiol Cymraeg difyr. Cyhoeddwyd yn gyntaf yn 2012.
Bywgraffiad Awdur:
Daw D. Geraint Lewis o Ynys-y-bwl yn wreiddiol, ac mae’n byw yng Ngheredigion. Mae’n awdur dros ddau ddwsin o lyfrau sy’n cwmpasu amrywiaeth gyfareddol y Gymraeg: yn eiriaduron, cyfeirlyfrau a chasgliadau cerddoriaeth.
Gwybodaeth Bellach:
Yn y gyfrol hon mae D. Geraint Lewis yn corlannu casgliad o ymadroddion amrywiol a difyr yn yr iaith Gymraeg ac yn mynd ar drywydd yr ymadrodd ‘pert’ yn ei arddull ddihafal ei hun. Daw’r ymadroddion o bob cwr o fywyd Cymru, ac o bob ardal hefyd. Mae tarddiad a chyd-destun yn ychwanegu at gyfanrwydd y darlun, ac mae mynegai Saesneg i wneud y gyfrol yn ddefnyddiol i ddysgwyr ac addysgwyr fel ei gilydd. Nid cyfeirlyfr mo’r gyfrol ond taith ansbaradigaethus o gwmpas yr iaith a’i nodweddion unigryw a rhyfeddol. Mwynhewch y wibdaith.