CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Atgofion drwy Ganeuon: Nôl

Ryland Teifi

Atgofion drwy Ganeuon: Nôl

Pris arferol £7.50
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Ryland Teifi

ISBN: 9781845276867
Dyddiad Cyhoeddi: 06 Gorffennaf 2020
Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch, Llanrwst
Fformat: Clawr Meddal, 198x128 mm, 150 tudalen
Iaith: Cymraeg

Atgofion drwy ganeuon Ryland Teifi. Mae Ryland Teifi yn un o'n cyfansoddwyr a'n perfformwyr mwyaf talentog a phoblogaidd, gyda'i ganeuon yn cyfuno'r gwerinol/cyfoes Cymreig.

Gwybodaeth Bellach:
Gan ei fod wedi priodi Gwyddeles o deulu o gerddorion cryf yn y traddodiad, a gan ei fod ef a’i deulu bellach yn byw yn ne-ddwyrain yr ynys, mae dylanwad traddodiadau a datblygiadau cerddorol Iwerddon yn amlwg ar ei ganeuon hefyd.
Mae wedi cyfansoddi a chynhyrchu 4 albwm a 2 EP o’i ganeuon yn Gymraeg a Saesneg, wedi ennill Cân i Gymru yn 2006 ac enwebiad am artist y flwyddyn yn 2007. Derbyniodd ‘Last of the Old Men’ wobr ‘Albwm y Mis’ yng nghylchgrawn cerddoriaeth ‘Hotpresss’ a chyrhaeddodd ‘Man Rhydd’ restr fer Albwm Gymraeg y Flwyddyn yn 2016.
Mae’n actor/cantor adnabyddus – wedi ymddangos ar nifer fawr o gyfresi ar S4C fel ‘Caerdydd’, ‘Fondu, Rhyw a Deinasors’ a ‘Pen Talar’ ynghyd â chyfresi fel ‘Emmerdale’, ‘Hinterland/Y Gwyll’ ac ‘Un Bore Mercher/Keeping Faith’ ar sianeli ITV, y BBC a Netflix. Erbyn hyn, fe'i gwelir hefyd fel un o gyflwynwyr ‘Dechrau Canu, Dechrau Canmol’ ar S4C.