CLUDIANT AM DDIM DROS £45 | 01239 621370

Atgofion drwy Ganeuon: Ochr Treforys o'r Dre

Gwasg Carreg Gwalch

Atgofion drwy Ganeuon: Ochr Treforys o'r Dre

Pris arferol £8.00
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Neil Rosser

ISBN: 9781845277727 
Dyddiad Cyhoeddi: 25 Medi 2020
Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch, Llanrwst
Fformat: Clawr Meddal, 198x128 mm, 150 tudalen
Iaith: Cymraeg

Prin bod neb wedi gwneud mwy i hybu delwedd Gymraeg a Chymreig ardal Abertawe na Neil Rosser. Mae’n frogarwr i’r carn. Yn gyfansoddwr ac yn aelod o wahanol fandiau, mae’r gân ‘Ochr Treforys o’r Dre’ yn anthem atgofus i’w fro.

Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:
Bywgraffiad Awdur:
Ganwyd Neil yng Ngelli Fedw, gyda'i dad – Syr Mel Rosser – er ei fod wedi'i eni i deulu tlawd, wedi cyrraedd entrychion y Gwasanaeth Sifil. Yn aelod o deulu o gapelwyr pybyr o’i blentyndod yn Ebenezer, Gelli Fedw, disgrifia Neil ei grefydd heddiw fel ‘y Swans’!

Addysgwyd Neil yn Ysgol Lôn Las, Ysgol Gyfun Ystalyfera a Choleg Prifysgol Aberystwyth, lle cychwynnodd ar ei yrfa gerddorol. Bu’n gweithio i amrywiol gwmnïau yn cynnwys Ideal Bakery, Osram Lamps a Laura Ashley cyn cymhwyso’i hun yn athro. Mae'r cefndir cyfoethog yn cyfrannu at naws barddoniaeth bob dydd ei ganeuon.

Mae ganddo ddau fab annwyl, sef Gwyn ac Aled, ac mae’n lwcus iawn i fod yn briod ag Eldeg – y ferch o Port.