CLUDIANT AM DDIM DROS £45 | 01239 621370

Bardd ar y Bêl - Y Lôn i Lyon

Llion Jones

Bardd ar y Bêl - Y Lôn i Lyon

Pris arferol £6.95
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Llion Jones

ISBN: 9781906396961
Dyddiad Cyhoeddi: 10 Tachwedd 2016
Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas
Fformat: Clawr Meddal, 240x169 mm, 56 tudalen
Iaith: Cymraeg

Cyfrol o drydargerddi - ac ambell gywydd mawl - sy'n dilyn taith tîm pêl-droed Cymru i rownd gynderfynol Ewro 2016 yn Ffrainc.

Tabl Cynnwys:
Cyflwyniad Osian Roberts
Trydargerddi
Panini Ddoe a Heddiw (cywydd)
Ewro 2016 (cywydd)

Bywgraffiad Awdur:
Llion Jones yw Cyfarwyddwr Canolfan Bedwyr ac ef hefyd yw Is-gadeirydd Barddas. Mae'n gefnogwr brwd i dîm pêl-droed Dinas Bangor, yn ogystal â'r tîm cenedlaethol. Y mae'r Prifardd @LlionJ yn drydarwr bywiog iawn a phrofodd lwyddiant ysgubol gyda'i gyfrol Trydar Mewn Trawiadau gan ennill Gwobr Barn y Bobl yn Nghystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn 2013. Cyhoeddodd un gyfrol arall o gerddi gyda Chyhoeddiadau Barddas, Pethe Achlysurol yn 2007.

Gwybodaeth Bellach:
Llyfr sy'n dal blas o haf hynod 2016 ac sy'n dathlu llwyddiant y tîm cenedlaethol ar bob cam o'r daith. Dyma @Llion Jones ar ei orau yn cofnodi penllanw un o'r cyrchoedd meithaf yn hanes diweddar tîm pêl-droed Cenedlaethol Cymru. Gyda lluniau trawiadol gan ffotograffydd swyddogol y Gymdeithas Bel-Droed, mae'n gofnod gwerthfawr o gamp Chris Coleman a'i dim.
Mae'r gyfrol yn gyfuniad cyffrous o gerddi slic gan drydarwr poblogaidd a ffotograffau trawiadol gan David Rawcliffe (Propoganda)- ffotograffydd swyddogol y Gymdeithas Bêl-droed. Cynhwysir hefyd gyflwyniad byr gan Osian Roberts.