CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Beth am Stori?

Y Lolfa

Beth am Stori?

Pris arferol £4.95
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

ISBN: 9781847718563
Dyddiad Cyhoeddi: 07 Hydref 2014
Cyhoeddwr: Y Lolfa, Tal-y-bont
Addas i oed 7-9 neu Cyfnod Allweddol 2
Fformat: Clawr Meddal, 210x148 mm, 128 tudalen
Iaith: Cymraeg

Cyfrol ddeniadol o 10 o straeon byrion ar gyfer darllenwyr Cyfnod Allweddol 2 gan awduron amrywiol. Chwaer-gyfrol i Am Stori!

Tabl Cynnwys:
Mia Ffransis Roberts
Elena Gruffudd
Gwen Lasarus
Gwenno Hughes
Leon Balen
Mared Llwyd
Gareth William Jones
Sian Northey
T. Llew Jones
Gwybodaeth Bellach:
Straeon Byrion i Blant – Dau Gasgliad Newydd i Lenwi Bwlch

Mae'r Lolfa wedi rhyddhau dau gasgliad newydd o straeon byrion i blant oedran cynradd. Mae Am Stori! (7-9 oed) a Beth am Stori? (9-11 oed) yn cynnwys straeon amrywiol gan nifer o awduron hen a newydd. Ymhlith yr awduron adnabyddus sydd wedi cyfrannu i’r cyfrolau mae Lleucu Roberts, Haf Llewelyn, Gwenno Hughes a Mihangel Morgan. Mae yna hefyd storiau gan awduron llai adnabyddus. Ceir stori yn Beth am Stori? gan un o awduron ifancaf Cymru, Mia Ffransis Roberts, merch unarddeg oed o Lannerchymedd.

Yn ogystal â’r straeon mae cyflwyniad yn y ddwy gyfrol gan Caryl Lewis sy’n esbonio beth sy’n gwneud stori dda. Dywedodd Meinir Wyn Edwards, golygydd y llyfrau, “Mae yna brinder mawr o straeon ar gyfer plant cynradd a gobeithio bydd y llyfrau yma yn gam at ateb y galw. Mae'r rhain yn straeon fydd yn deffro’r dychymyg ac yn mynd â phlant i fydoedd cyffrous heb orfod symud cam. Gobeithio y byddant yn ysgogi plant i ysgrifennu stori eu hunain hefyd.”

Mae’r gyfrol yn cynnwys amrywiaeth mawr o bynciau fydd yn apelio at blant a ceir hefyd lluniau gan Peter Stevenson. Derbyniodd y gyfrol nawdd gan gan Adran Addysg a Sgiliau Llywodraeth Cymru.