CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Brodorion

Ifan Morgan Jones

Brodorion

Pris arferol £8.99
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Ifan Morgan Jones

ISBN: 9781800990364
Dyddiad Cyhoeddi: 28 Gorffennaf 2021
Cyhoeddwr: Y Lolfa
Fformat: Clawr Meddal, 195x131 mm, 246 tudalen
Iaith: Cymraeg

Nofel anturus a chyffrous sy’n mynd â’r darllenydd i fyd egsotig ymhell o Gymru, wrth i griw o Gymry hwylio i ynys anhysbys yn yr Iwerydd wedi i’r capten, Morys, eu recriwtio i chwilio am leoliad trysor Barti Ddu. Ond wedi cyrraedd, daw i’r amlwg fod ganddo gynlluniau gwahanol.

Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:
Bywgraffiad Awdur:
Mae Ifan Morgan Jones yn prysur gwneud enw iddo'r hun fel awdur ac yn enillydd sawl gwobr. O Waunfawr yng Ngwynedd yn wreiddiol mae’n byw ym Mhenrhiwllan ger Llandysul.
Bu’n Ddirprwy Olygydd ar gylchgrawn Golwg, ac yn Olygydd gwefan Golwg360. Mae bellach yn ddarlithydd yn adran Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau Prifysgol Bangor.

Gwybodaeth Bellach:
Wrth i’r Cymry eraill chwilio am ‘y trysor’ mae’r capten yn dinistrio’r cwch gan gaethiwo pawb ar yr ynys. Yna mae’n cyhoeddi ei fwriad gwirioneddol – dechrau Cymru newydd. Fodd bynnag, nid yw pethau’n datblygu fel yr oedd gan y capten mewn golwg. Daw i’r amlwg fod trigolion brodorol eisoes ar yr ynys. Fe fydd y nofel yn ymwneud â themâu sydd o ddiddordeb i ni nawr gan gynnwys hunan-ynysu a chaethiwed. Yn wahanol i Babel, ei nofel ddiwethaf, nid yw hon yn stori ffantasi.

Gwobrau:
Enillodd wobrau Llyfr y Flwyddyn a Barn y Bobl yn 2020 am Babel, ei nofel ddiwethaf. Mae’n gyn-enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen am Igam Ogam yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2008.