CLUDIANT AM DDIM DROS £45 | 01239 621370
Awdur: Nerys Howell
ISBN: 9781784618971
Dyddiad Cyhoeddi: 18 Medi 2020
Cyhoeddwr: Y Lolfa, Tal-y-bont
Fformat: Clawr Caled, 217x246 mm, 168 tudalen
Iaith: Dwyieithog (Cymraeg a Saesneg)
Cyfrol goginio ddwyieithog yn llawn ryseitiau traddodiadol a chyfoes wedi ei chreu gan yr arbenigwr bwyd Nerys Howell. Mae'n wyneb cyfarwydd iawn i wylwyr Pnawn Da ar S4C ac mewn sioeau bwyd ar draws Cymru. Bydd y gyfrol newydd yn llawn ryseitiau sy'n dod â dŵr i'r dannedd ac yn hybu cynnyrch o Gymru a bwyd tymhorol. Llawn lluniau lliw.
Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:
Bywgraffiad Awdur:
Mae Nerys Howell yn wyneb cyfarwydd iawn i wylwyr Pnawn Da ar S4C ac mewn sioeau bwyd dros Gymru. Yn ogystal â’i slot coginio rheolaidd ar raglen Pnawn Da, mae’n cyflwyno bwyd ac arfer da ar raglenni teledu a radio Cymraeg a Saesneg eraill. Mae ei llyfr dwyieithog, Cymru ar Blât (2009), yn defnyddio cynnyrch o Gymru. Cyrhaeddodd y llyfr y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Llyfrau Coginio Rhyngwladol Gourmand 2010.