Awdur: Bethan Gwanas
ISBN: 9781784614294
Dyddiad Cyhoeddi: 14 Gorffennaf 2017
Cyhoeddwr: Y Lolfa, Tal-y-bont
Darluniwyd gan Janet Samuel
Fformat: Clawr Caled, 234x229 mm, 44 tudalen
Iaith: Cymraeg
Mae Cadi'n mynd i gael picnic ar lan y môr. Wrth iddi orwedd mewn pwll dwr cynnes, braf, mae'n cael ei thynnu i lawr ac i lawr i waelod y môr mawr! Dyna pryd mae'n cwrdd a'i ffrind newydd, Mabli'r fôr-forwyn. Ond rhaid cadw'n ddigon pell oddi wrth ogof Morlais, y Morgi Mawr Gwyn...
Gwybodaeth Bellach:
Stori liwgar, sy'n llawn hud a lledrith bywyd o dan y môr, ac sy'n dysgu gwers i ni – PAID Â THAFLU SBWRIEL I'R MÔR!
Dyma unwaith eto gyfuniad deniadol o stori hyfryd Bethan Gwanas a lluniau lliwgar Janet Samuel sy'n dod â'r testun yn fyw i'r darllenwyr ifanc, 5-8 oed, yn dilyn llwyddiant Coeden Cadi, a oedd ar restr fer Gwobr Tir na n-Og 2016.
Llyfr 48 tudalen, clawr caled, yn llawn lluniau lliw hudolus. Mae iddo naws tebyg i ffilmiau Disney sydd wedi'u lleoli o dan y môr fel The Little Mermaid, Finding Nemo a Finding Dory. Llyfr anrheg bendigedig.