CLUDIANT AM DDIM DROS £45 | 01239 621370

Cardi yn y Cabinet

Y Lolfa

Cardi yn y Cabinet

Pris arferol £7.99
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: John Morris

ISBN: 9781784617271
Dyddiad Cyhoeddi: 02 Awst 2019
Cyhoeddwr: Y Lolfa, Tal-y-bont
Fformat: Clawr Meddal, 214x141 mm, 126 tudalen
Iaith: Cymraeg

Mae John Morris yn ymfalchïo yn ei wreiddiau yng nghefn gwlad Ceredigion, ond gwelwyd ef fel dafad ddu'r teulu gan iddo benderfynu dilyn gyrfa fel cyfreithiwr yn hytrach na ffermwr. Dyma gyfrol o atgofion un a fu'n Aelod Seneddol Llafur dros Aberafan o 1959 hyd 2001, ac a fu hefyd yn Ysgrifennydd Cymru o 1974 hyd 1979.

Gwybodaeth Bellach:
Cafodd ei ethol i gynrycholi'r Blaid Lafur yn 1959 pan ddaeth yn Aelod Seneddol dros Aberafan, gan ddal y sedd honno tan iddo ymddeol yn 2001 - y cyfnod hiraf i unrhyw Aelod Cymreig. Fel aelod o'r Dŷ'r Cyffredin a Thŷ'r Arglwyddi bu'n gwasanaethu dan ddeg arweinydd Llafur - o Hugh Gaitskell hyd at Jeremy Corbyn. Cawn hanes ei berthynas â hwy yn ddiflewyn-ar-dafod.
Bu'n dal rhai o'r swyddi uchaf yn y Llywodraeth a'r Wrthblaid, fel Twrnai Cyffredinol ac Ysgrifennydd Cymru, yn ogystal â swyddi gweinyddol eraill, a hynny mewn cyfnodau cythryblus, megis rhyfel yr hen Iwgoslafia, a bu'n teithio'r byd yn rhinwedd ei waith. Mae ei hanes yn croniclo cyfnod o 60 mlynedd yn y byd gwleidyddol, gan ddod â ni at y cyfnod mwyaf dadleuol oll, sef y posibilrwydd o adael yr Undeb Ewropeaidd.