CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

CBT Therapi Ymddygiad Gwybyddol

Elaine Iljon Foreman, Clair Pollard

CBT Therapi Ymddygiad Gwybyddol

Pris arferol £6.99
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Elaine Iljon Foreman, Clair Pollard

ISBN: 9781913134983
Dyddiad Cyhoeddi: Mehefin 2020
Cyhoeddwr: Graffeg, Caerdydd
Fformat: Clawr Meddal, 203x127 mm, 240 tudalen
Iaith: Cymraeg

Gallwch oresgyn ofnau, rheoli negyddiaeth a gwella’ch bywyd gyda therapi ymddygiad gwybyddol (CBT). Yn aml, fe all newid ymddangos yn dasg amhosib, ond bydd y canllaw ymarferol yma’n gymorth i chi ei weld mewn persbectif.

Cyfieithiad Cognitive Behavioural Therapy (CBT): Your Toolkit to Modify Mood, Overcome Obstructions and Improve Your Life.
Gan ddefnyddio’r un dulliau ag ymarferwyr CBT, mae’r llyfr hwn yn llawn gweithgareddau ac arbrofion i archwilio a herio, straeon ac ymarferion i gynnig persbectif i chi, ac mae iddo fframwaith clir i’ch annog a’ch tywys. Bydd agwedd gyfeillgar a chefnogol yr awduron yn eich helpu i reoli’r adegau hynny pan fydd meddyliau ac ymddygiad negyddol yn ailgodi eu pen, ac i ddatblygu strategaethau ymdopi cadarn.
Mae CBT yn ymgorffori’r therapïau a’r ymchwil ddiweddaraf, gan gynnwys ACT ac ymwybyddiaeth ofalgar, ac yn mynd i’r afael yn benodol â thrafferthion fel diffyg cwsg ac iselder.