CLUDIANT AM DDIM DROS £45 | 01239 621370

Cegin

Nici Beech

Cegin

Pris arferol £16.00
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Nici Beech

ISBN: 9781845275372
Dyddiad Cyhoedd: 21 Hydref 2016
Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch, Llanrwst
Fformat: Clawr Caled, 247x177 mm, 160 tudalen
Iaith: Cymraeg

 Llyfr y Mis: Tachwedd 2016
Mae'r llyfr coginio hwn yn gwneud defnydd o gynnyrch yn ei dymor mewn ffordd syml, flasus. Gellir gwneud nifer helaeth o'r seigiau mewn un pot, heb lawer o offer cymhleth, sy'n ddelfrydol ar gyfer myfyrwyr a theuluoedd prysur. Cyfrol ddarluniadol mewn lliw llawn.
Gwybodaeth Bellach:
Dechreuodd diddordeb Nici mewn coginio wrth draed ei mam, a byth ers hynny mae wedi mwynhau arbrofi yn y gegin. Sefydlodd fwyty pop-yp yng Nghaernarfon rai blynyddoedd yn ôl, a hyd heddiw mae'n darparu bwydydd blasus ar gyfer digwyddiadau yn yr ardal. Hi yw un o sylfaenwyr Gŵyl Fwyd Caernarfon a Gŵyl Arall.
Mae'r llyfr coginio hwn yn gwneud defnydd o gynnyrch yn ei dymor mewn ffordd syml, flasus. Gellir gwneud nifer helaeth o'r seigiau mewn un pot a heb lawer o offer cymhleth, sy'n ddelfrydol ar gyfer myfyrwyr a theuluoedd prysur. Mae symbolau arbennig yn cael eu defnyddio i nodi lle gellir addasu'r rysáit i gydfynd â deiet gwahanol e.e. figan, diglwten, di-laeth ac ati, ac i nodi'r prydau hynny y gellir eu paratoi mewn hanner awr neu lai.
Wrth gwrs, mae yma ddanteithion tipyn llai iachus hefyd − ond mae'n rhaid cael amrywiaeth mewn bywyd, does!