Rebecca Roberts
Chwerwfelys
Awdur: Rebecca Roberts
ISBN: 9781845278076
Dyddiad Cyhoeddi: 06 Rhagfyr 2021
Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch
Fformat: Clawr Meddal, 199x127 mm, 234 tudalen
Iaith: Cymraeg
Dilyniant i'r nofel boblogaidd Mudferwi, a gyhoeddwyd yn 2019. Mae Alys yn byw ei breuddwyd yn rhedeg bwyty llwyddiannus yn Nyffryn Clwyd gyda'i chariad, Duncan. Ond pan gaiff Duncan gynnig mynd i ffilmio rhaglen deledu i Batagonia, mae'n gadael Alys ar ei phen ei hun i ymdopi â'r bwyty.
Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:
Bywgraffiad Awdur:
Magwyd Rebecca Roberts yn Mhrestatyn. Ers iddi raddio o Brifysgol Bangor gyda gradd Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol mae wedi gweithio fel athrawes, swyddog datblygu, gweinydd dyneiddiol a chyfieithydd.
Derbyniodd Ysgoloriaeth Emyr Feddyg yn 2017 er mwyn datblygu #Helynt, nofel i bobl ifanc a gafodd ei chyhoeddi yn Hydref 2020 gan Wasg Carreg Gwalch, ac mae hi wedi cael ei mentora yn ei gwaith creadigol gan Bethan Gwanas a Manon Steffan Ros. Cyfrannodd ysgrif i’r gyfrol O, Mam Bach (Gwasg y Bwthyn, 2017) ac mae wedi dod i’r brig sawl tro mewn cystadlaethau ysgrifennu yn Eisteddfod yr Urdd a’r Eisteddfod Genedlaethol. Mae ei gwaith wedi cael ei ddarlledu ar Radio Cymru a pherfformiwyd sgript fer o’i heiddo gan gwmni cynhyrchu.
Y nofel gyntaf iddi ei chyhoeddi oedd Mudferwi yn 2019, a chafodd nofel Saesneg o’i gwaith i bobl ifanc, Eat. Sleep. Rage. Repeat, ei chyhoeddi gan Gomer yn gynharach yn 2020.
Enillodd #Helynt Wobr Tir na n-Og 2021 a’i chynnwys ar restr fer Llyfr y Flwyddyn 2021.
Gwybodaeth Bellach:
Mae Alys wedi cael ei breuddwyd: mae hi’n rhedeg bwyty llwyddiannus yn ei phentref genedigol yn Nyffryn Clwyd efo’i chariad, y cogydd golygus Duncan Stuart. Ond dyw bywyd ddim yn fêl i gyd – pan gaiff Duncan gynnig mynd i ffilmio rhaglen deledu i Batagonia mae’n gadael Alys ar ei phen ei hun i ymdopi â’r bwyty. Daw John, ffrind gorau Duncan, i roi help llaw iddi, ond doedd Alys ddim wedi ystyried y byddai’n gorfod delio â Lydia, cyn-wraig drafferthus a sbeitlyd Duncan.