CLUDIANT AM DDIM DROS £45 | 01239 621370

Cicio'r Bar

Sioned Wiliam

Cicio'r Bar

Pris arferol £8.99
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Sioned Wiliam

ISBN: 9781784614157
Dyddiad Cyhoeddi: 26 Mawrth 2018
Cyhoeddwr: Y Lolfa, Tal-y-bont
Fformat: Clawr Meddal, 194x130 mm, 198 tudalen
Iaith: Cymraeg

 Llyfr y Mis: Mai 2018
Trydedd nofel yr awdures Sioned Wiliam, sy'n enw cyfarwydd ym myd comedi teledu ynysoedd Prydain. Mae'r nofel lawn hiwmor yn dilyn poblogrwydd y ddwy nofel gyntaf, Dal i Fynd a Chwynnu. Ailymwelir â chymeriadau Dal i Fynd ond nid oes angen i chi fod wedi darllen y nofel gyntaf i fwynhau hiwmor a dychan y stori newydd. Mae'n sefyll ar ei phen ei hun.

Cynhyrchodd amryw o raglenni comedi i’r prif rwydweithiau teledu Fe’i henwebwyd am wobr BAFTA Lloegr dair gwaith fel cynhyrchydd ac
enillodd y British Comedy Award a’r Rhosyn Efydd ym Montreux am Big Train ym 1999.

Rhwng 1999 a 2006 roedd yn Bennaeth Comedi Rhwydwaith ITV, gan gomisiynu nifer fawr o ffilmiau a chyfresi comedi gan gynnwys Harry Hill’s Sketch Show a Cold Feet.
Gwybodaeth Bellach:
Mae’n gyfle i ddod i nabod Anwen, Delyth a Nia, cyn i un ddod yn fam brysur, un yn ddynes fusnes lwyddiannus a'r llall yn wraig weinidog gydwybodol. Ac fe fydd yn gyfle i baentio darlun o Aber yn yr 80au a straeon gwleidyddol mawr y cyfnod.
Fe welwn y tri chymeriad yn eu hieuenctid – yn llawn gobeithion ac egwyddorion. Ynghanol y miri fe fydd sawl tro annisgwyl, ac ymgais i bortreadu bywyd yn ei gyfanrwydd, yr ysgafn a’r dwys, fel sy’n ddisgwyliedig gan yr awdures brofiadol hon.
Dyma drydedd nofel Sioned, yn dilyn llwyddiant Dal i Fynd sydd wedi ei haddasu'n ffilm Nadolig gan S4C. Yng ngeiriau Bethan Gwanas am y llyfr hwnnw, ‘Tonic o nofel! Wedi chwerthin yn uchel ond yn agos at ddagrau weithiau hefyd.’